91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan Rygbi'r Byd 2007

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 03 Medi 2007
Hanes Cwpan y Byd: 1987
David Kirk yn codi Cwpan Webb EllisRoedd yn eiliad hanesyddol wrth i'r Eidal a Seland Newydd redeg i'r maes yn Eden Park, Auckland ar 22 Mai, 1987.

116 o flynyddoedd ar ôl i'r Alban groesawu Lloegr i Gaeredin ar gyfer y gêm brawf gyntaf un, roedd y byd rygbi'n cynnal Cwpan y Byd am y tro cyntaf.

Roedd y byd rygbi'n hwyr iawn yn trefnu pencampwriaeth byd.

Roedd pêl-droed wedi cynnal Cwpan y Byd ers 1930, cafwyd Cwpan Rygbi XIII y Byd am y tro cyntaf ym 1954 ac roedd hyd yn oed y byd criced wedi cynnal Cwpan y Byd ers 1975.

Roedd rygbi wedi bod yn rhan o'r Gemau Olympaidd ym 1900, 1908, 1920 a 1924 ond roedd yr Undebau wedi gwrthod cynigion i greu Pencampwriaeth y Byd er mwyn ceisio cadw ethos amatur y gamp.

Ym 1983, cafwyd cynnig gan Undeb Rygbi Awstralia ac Undeb Rygbi Seland Newydd i gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd ac o'r herwydd, fe benderfynodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) ymchwilio i'r syniad.

Mewn cyfarfod yr IRB ym Mharis ym 1985, cefnogwyd y syniad o gynnal Cwpan y Byd yn Awstralia a Seland Newydd gan y ddwy wlad honno ynghyd â Ffrainc, ond roedd gwrthwynebiad gan y pedwar Undeb o Ynysoedd Prydain.

Credir mai penderfyniad De Affrica i bleidleisio o blaid y gystadleuaeth, er na fyddai'r Springboks yn cael cystadlu oherwydd y boicot chwaraeon, arweiniodd at Loegr a Chymru'n newid eu meddyliau.

Cafodd y saith aelod o'r IRB - Seland Newydd, Awstralia, Ffrainc, Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon - eu lle yn y gystadleuaeth ond doedd dim gemau rhagbrofol ar gyfer y naw lle arall.

Yn hytrach, cafodd Ariannin, Fiji, Yr Eidal, Canada, Romania, Tonga, Japan, Zimbabwe ac America wahoddiad i gystadlu

Seland Newydd oedd y pencampwyr cyntaf wrth i'r Crysau Duon drechu Ffrainc 29-9 yn y rownd derfynol yn Eden Park.

Llwyddodd Cymru i orffen yn drydydd wrth i drosiad hwyr Paul Thorburn yn dilyn cais gan Adrain Hadley sicrhau buddugoliaeth 22-21 dros Awstralia.


chwaraeon
Y Timau
Ìý
Hanes y Gwpan
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý