"Roedd 'na ormod o gamgymeriadau yn yr hanner cyntaf a doedden ni ddim yn effeithiol iawn," meddai Jones.
"Doedden ni ddim yn cadw'r bêl. Ond o leiaf chwaraeon ni'n well yn yr ail hanner.
"Yn yr ail hanner, dyna'r gorau 'da ni 'di chwarae ers sbel, ond collon ni gormod o'r bêl yn yr hanner cyntaf a falle'n bod ni'n cicio gormod o'r meddiant.
"Roedden ni'n llawer gwell yn yr ail hanner ond mae'n rhaid i ni gario 'mlaen i wella gan fod 'na her arall yn dod yn erbyn Fiji a Japan."
Os yw Cymru'n gorffen yn ail yn eu grŵp, mae disgwyl iddyn nhw wynebu De Affrica ym Marseille gan mai'r Springboks sydd yn debygol o orffen ar frig Grŵp A ar ôl eu buddugoliaeth yn erbyn Lloegr nos Wener.
|