91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan Rygbi'r Byd 2007

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 09 Medi 2007
Cymru yn ennill wedi braw yn Nantes

Cymru 42-17 Canada
Cafodd Cymru fraw a hanner yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Canada yn Nantes cyn dod yn ôl i ennill â phum cais yn yr ail hanner.


Roedd y Canucks wedi mynd ar y blaen wrth i Dave Biddle a Craig Culpan groesi am gais yr un wrth ymateb i dair cic gosb James Hook i'r Cymry.

A llwyddodd Canada i ymestyn eu mantais yn gynnar wedi'r egwyl wrth i'w capten, Morgan Williams, blymio drosodd am drydydd cais.

Ond llwyddodd Cymru i ddod yn ôl gyda Sonny Parker, Alun Wyn Jones, Shane Williams (2) a Colin Charvis yn croesi i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cafwyd dechrau hynod siomedig i'r bencampwriaeth er gwaethaf tair cic gosb gan Hook, wrth iddyn nhw fethu'n glir â chanfod eu rhythm.

Ond roedd cynlluniau Canada'n amlwg wrth i'w pac cryf frwydro drosodd am gais agoriadol wedi 25 munud.

Gosodwyd sylfaen gref i'r ymosodiad o sgrym yn 22 Cymru a croesodd Cudmore wrth i amddiffyn Cymru chwalu o dan bwysau.

A 10 munud yn ddiweddarach llwyddodd Culpan i synnu Cymru wrth redeg hyd y maes i gasglu ail gais i'r Canucks.

Roedd Cymru wedi cyd chwarae'n hyfryd i greu cyfle euraidd i'w holwyr yn 22 Canada ond llwyddodd Culpan i gasglu pas hir Hook a charlamodd y canolwr drosodd.

Trosodd James Pritchard i sicrhau bod Canada ar y blaen ar yr egwyl.

Bum munud wedi'r egwyl llwyddodd y maswr, Williams, i dorri trwy amddiffyn Cymru a gosod sylfaen i'w flaenwyr frwydro am y llinell gais.

Ac wedi i Williams groesi am drydedd, roedd yn edrych yn ddu iawn ar Gymru.

Ymatebodd yr hyfforddwr, Gareth Jenkins, yn syth gan yrru Gareth Thomas a Stephen Jones i'r maes i geisio ysgogi'r Cymry.

Bu bron i Jones sgorio efo'i gyffyrddiad cyntaf a bu yn rhaid i Ganada fod yn effro i rwystro'r maswr rhag tirio'r bêl y tu ôl i'w llinell gais.

Ond llwyddodd Cymru i sicrhau eu cais cyntaf yn y bencampwriaeth o'r sgrym wrth i Parker gasglu pas gelfydd Jones.

Ac aeth Cymru yn ôl ar y blaen wrth i Alun Wyn Jones blymio drosodd wedi i amddiffyn Canada fethu â chlirio'r bêl ar eu llinell gais.

Gyda'r Canucks yn blino, manteisiodd Shanklin gan greu dau gais mewn dau funud i Shane Williams.

Ac yna llwyddodd Stephen Jones i greu cais syml i Charvis a sicrhau bod y sgôr yn gymharol barchus ar y diwedd.

Cymru: Morgan; M Jones, Shanklin, Parker, S Williams; Hook, Peel (capt); G Jenkins, M Rees, A Jones, Gough, AW Jones, J Thomas, M Williams, Popham.
Eilyddion: T Rhys Thomas, D Jones, Owen, Charvis, Phillips, S Jones, G Thomas.

Canada: Pyke; Van der Merwe, Culpan, Spicer, Pritchard; Monro, Williams (capt); Snow, Riordan, Thiel, Tait, James, Cudmore, Biddle, Stephen.
Eilyddion: Carpenter, D Pletch, M Pletch, Burak, Yukes, Fairhurst, Smith.


chwaraeon
Y Timau
Ìý
Hanes y Gwpan
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý