Fel yn y 200m a'r 400m, Rebecca Adlington rwystrodd Carlin rhag ennill wrth i'r bencampwraig Olympaidd gipio'r aur yn y ras 800m. Sefydlodd Carlin record Gymreig newydd drwy orffen mewn amser o 8 munud 25.67 eiliad - pum eiliad yn arafach nag Adlington. Mae perfformiadau ardderchog Carlin dros yr wythnos ddiwethaf wedi sicrhau lle iddi gystadlu yn nhîm Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Tsieina ym mis Gorffennaf.
|