Hawliodd Stephens, gollodd ei ddwy goes mewn damwain trên pan yn naw oed, fedal aur yng nghystadleuaeth y waywffon yn Christchurch. Ar ôl y siom o fethu a sicrhau medal yng ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008, sicrhaodd Stephens yr aur gyda thafliad o 39.11m. Mae llwyddiant Stephens yn coroni wythnos lwyddiannus i'r hyfforddwr Anthony Hughes o Gaerdydd. Yr oedd Kyron Duke a Holly Arnold eisoes wedi ennill medalau efydd yn y cystadlaethau gwaywffon gydag Aled Davies hefyd yn sicrhau efydd yng nghystadleuaeth F42 y ddisgen. Mae Prydain wedi ennill deg medal aur ac yn bumed ar y rhestr medalau gyda chyfanswm o 35 medal tra bod Tsiena ar y brig.
|