Dioddefodd cyn chwaraewr rygbi t卯m merched Cymru anaf difrifol i'w llinyn gar wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth Reslo Agored Prydain fis diwethaf. Ac mae Evans bellach yn derbyn bod hi'n wynebu ras i brofi ei ffitrwydd a sicrhau lle yn y t卯m reslo ar gyfer Llundain 2012. "'Dwi wedi cael llawdriniaeth i roi'r llinyn y gar yn 么l ar y pelfis ac mae'n gwella," meddai Evans. "Ond y broblem yw mae'n mynd i gymryd sbel iddo ddod yn 么l yn normal. "Hyd yn oed os 'dwi'n teimlo iawn mi fyddwn yn methu reslo neu redeg yn gyflym achos fe alle fe ddod bant o'r asgwrn eto. "Ond mae pobl wedi dod yn 么l o hwn. Mae lot o chwaraewyr rygbi wedi cael yr un llawdriniaeth a fi ac roedden nhw'n 么l yn chwarae mewn rhyw bump i chwe mis,. "Ond y broblem yw os ydw i eisiau ennill lle yn nh卯m Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd mae 'na lot o gystadlaethau dros y misoedd nesaf. "Mi fyddwn yn ffaeli cystadlu yn y rheini gwaetha'r modd." Dechreuodd Evans ar yrfa newydd yn reslo ychydig dros flwyddyn yn 么l, gan sicrhau lle yn nh卯m Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Serch hynny ni lwyddodd i sicrhau medal yng nghategori'r 55kg dull rhydd yn Delhi. Ar 么l ennill 87 o gapiau i d卯m rygbi merched Cymru, fe adawodd Evans y llwyfan rhyngwladol wedi Cwpan y Byd y llynedd.
|