Cymharodd Elin Meek y gwaith o addasu llyfrau o iaith arall i wneud croesair.
"Rwy'n ei weld i gyd fel rhyw fath o groeseiriau mawr - yr ydych yn ffeindio'ch ffordd trwy wahanol frawddegau a gobeithio wedyn y byddan nhw yn sefyll fel brawddegau Cymraeg da a bod naws y peth yn Gymreig," meddai wrth gael ei holi ar Raglen Gaynor Davies, Ionawr 17, 2007.
Eu gwneud yn Gymreig Nid yn unig mae Elin yn awdur ei hun ond y mae hefyd wedi addasu nifer fawr o lyfrau Saesneg i'r Gymraeg.
Eglurodd mai ei nod wrth drosglwyddo stori o un iaith i'r llall yw addasu'r testun yn hytrach na'i gyfieithu a bod hynny weithiau yn golygu newid lleoliadau hyd yn oed er mwyn eu gwneud yn fwy cyfarwydd i ddarllenwyr Cymraeg.
"Beth rwy'n trio'i wneud yw gosod y peth mewn cyd-destun Cymreig," meddai.
Dywedodd ei bod hefyd yn newid enwau cymeriadau i'r diben hwnnw - ond ychwanegodd nad yw hynny'n cael ei ganiat谩u gyda llyfrau Roald Dahl a hynny weithiau yn peri trafferthion iddi.
Casau'r dechrau Wrth s么n am sgrifennu ei llyfrau gwreiddiol ei hun dywedodd:
"Dwi ddim yn hoffi'r dechrau - rwy'n casau dechrau a dweud y gwir," meddai.
Disgrifia hefyd sut y gall syniadau newid wrth i'r sgrifennu fynd rhagddo.
"Mae rhyw fath o egin syniad ac rwy'n cynllunio yn weddol fanwl ond wrth sgrifennu mae bylchau yn dod i'r amlwg ac yn aml iawn mae'r stori yn mynd i gyfeiriad gwahanol neu mae cymeriadau unigol yn mynd i gyfeiriad gwahanol," meddai.
Cyhoeddodd Elin Meek nifer o lyfrau gyda yn rhai ffeithiol ac yn ffuglen.
Cliciwch i ddarllen atebion Elin Meek i holiadur Llais Ll锚n.