91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Holi Elin Meek
Holi'r awdur sydd wedi addasu Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill gan Daniel Morden i'r Gymraeg

Beth yw eich gwaith?
Gweithio'n llawrydd yn cyfieithu / addasu, ychydig o ysgrifennu

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes Almaeneg a Chymraeg. Darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Drindod Caerfyrddin.

O ble'r ydych chi'n dod?
O Gaerfyrddin ond mae'r teulu o Geredigion.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Abertawe.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin. Ddim cymaint yn Ysgol Ramadeg i Ferched, Caerfyrddin, lle cefais fy mharatoi'n wych ar gyfer ochr academaidd y Brifysgol yn Aberystwyth, ond doedd yr addysg ddim yn paratoi rhywun o gwbl ar gyfer yr ochr gymdeithasol!

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Comisiwn gan Gomer oedd Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill i addasu chwedlau Daniel Morden i'r Gymraeg. Felly dwi ddim yn awdur o gwbl. Gan mai yn Gymraeg y bydden nhw wedi cael eu trosglwyddo rywdro, mae'n debyg, ro'n i'n ceisio cyfleu rhythmau stor茂ol y Gymraeg. Roedd ambell stori, fel Y Bwca' yn codi gwallt fy mhen i, braidd, rhaid dweud!

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfrau ffeithiol i ddysgwyr ryw ddeng mlynedd yn 么l, S锚r Heddiw a Cymry wrth eu Gwaith, llyfr yn y gyfres Sut i , sef Sut i gael babi a cwpwl o stor茂au gwreiddiol i blant a nifer o addasiadau.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Mae'n debyg mod i'n arfer gwrthod bwyta pan o'n i'n blentyn os nad oedd llyfr o'r enw Tedi'r Ffarmwr Bach ar y ford.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Rhoddodd fy rhieni'r copi i rywun arall ond dwi'n dal i hiraethu amdano.

Pwy yw eich hoff awdur?
Anodd! Dwi wedi mwynhau darllen gwaith Donna Tart yn ddiweddar, mae rhywbeth mor afaelgar yn ei hysgrifennu hi.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Dwi'n ceisio darllen Almaeneg yn gyson er mwyn cadw'r iaith yn fyw yn y meddwl ac fe ges i flas mawr yn ddiweddar ar Geld oder Leben gan Birgit Vanderbeke. Mae'n llyfr twyllodrus o rwydd ei ddarllen ond trafod cyfalafiaeth a'i dylanwad mae e yn y b么n.

Pwy yw eich hoff fardd?
Anodd dewis un Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Emyr Davies, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Emyr Lewis, Twm Morys, Myrddin ap Dafydd.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Ar hyn o bryd: y darn cyntaf allan o Gwreiddiau, Mererid Hopwood.
Mae sawl un gofiadwy gan Alan Llwyd hefyd Eirlysiau ac Yn angladd ei fam.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Gwymon o ddynion heb ddal tro'r trai. (Gerallt Lloyd Owen)
daeth blaguryn / yn fory i gyd ...'(Mererid Hopwood).
Ac oglau hen gaglau'n y gwynt' (Mei Mac)

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm beth am Habla con ella (Siarada 芒 hi), wedi'i chyfarwyddo gan Pedro Almodvar.
Byth yn hoffi colli Have I got news for you. Fel arall ddim yn gweld llawer o deledu.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad Mr Darcy. Wedi bod mewn cariad 芒 fe ers astudio Pride and Prejudice yn 15/16 oed.
Cas gymeriad Wil James (Cysgod y Cryman). Portread gwych o gymeriad dan-din.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Da dant rhag tafod.

Pa un yw eich hoff air?
mwys

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ganu jazz ar y piano'n fyrfyfyr; y ddawn i wau/gwn茂o dillad heb batrwm.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Annibynnol
Dibynnol
Cymysglyd

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Tuedd i ofidio am yfory yn lle mwynhau heddiw.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans, am sefyll yn gadarn ac unplyg pan oedd bod yn genedlaetholwr yn brofiad unig ac amhoblogaidd, ac am ddioddef sen a gwawd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Owain Glyndwr.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Gwraig yr Esgob William Morgan. Byddwn yn gofyn iddi sut llwyddodd i fagu 11 o blant pan oedd ei gwr yn gweithio yn y stydi'n barhaus. A dweud y gwir, byddai'n braf cael sgwrs ag unrhyw wraig i ddyn enwog', gan mai gyda hi roedd allwedd ei lwyddiant, siwr o fod.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith i lawr o Cross Foxes i Dal-y-llyn yr olygfa wych. Cofio teithio'r tro cyntaf y ffordd arall: o Dal-y-llyn am Cross Foxes ar y ffordd i wersyll Glan-llyn ac ofni y byddai'r bws yn llithro i lawr y dibyn.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
I ddechrau: rhywbeth gyda chocos a bara lawr neu felon 芒 saws mafon; yna prif gwrs yn cynnwys pysgod ac i orffen, ffrwythau ffres neu gaws (drewllyd). Neu, os yw'r amser yn brin, brechdan Farmite neu frechdan brie, darn o foron a seleri.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Potshan gyda'r plant; nofio; gwau; cerdded a seiclo (ar dywydd braf yn unig); canu a chymdeithasu gyda Ch么r Tŷ Tawe.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf dogni adnoddau naturiol: hawl gan bob person i ddefnyddio hyn a hyn o drydan/nwy/ adnoddau naturiol a dim mwy. Hefyd, deddf lle byddai'n rhaid ailgylchu pob dim. A deddf i wahardd pob ty bwyta' sy'n gwerthu rwtshfwyd i blant drwy eu denu 芒 theganau.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Wel, mae nofel' i blant 11-13 oed gyda'r golygydd ar hyn o bryd, ond taw piau hi.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Roedd y baswyr yn canu'n uffernol heno eto. (Sori, faswyr C么r Ty Tawe!).


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy