Adolygiad o nofel y Fedal Ryddiaith 2007
Adolygiad Gwenllian Rowlinson o Rhodd Mam gan Mary Annes Payne. Cyfrol Fuddugol y Fedal Ryddiaeth 2007. Gwasg Gomer. 144tt. 拢6.99. ISBN 978-1-84323-863-8.
Mae'r broliant ar gefn y gyfrol fechan hon yn disgrifio'r llyfr fel 'nofel hudolus'.
Ond nid nofel yn yr ystyr arferol a geir yma ond casgliad o atgofion geneth ifanc am ei phlentyndod.
Mae'r gyfrol wedi'i hysgrifennu mewn iaith lafar. Mae pob un ohonom yn cofio rhai pethau o'n plentyndod yn glir, ond wedi anghofio pethau eraill yn llwyr. Mae tuedd i ninnau, fel y cymeriad yn y gyfrol hon, gofio'r pethau arwyddocaol yn unig, y pethau sy'n ychwanegu at ein datblygiad.
Ychydig iawn o wybodaeth gefndirol a geir ar y dechrau. Rhaid darllen ymhellach i ddarganfod mwy am yr eneth ifanc a'i theulu sy'n ganolbwynt i'r gyfrol
Ar fferm
Teulu amaethyddol a geir yma, yn byw ar fferm o'r enw Brwyn Helyg. Nid oes s么n am union leoliad ond gellir tybio mai yn y gogledd-orllewin mae'r teulu yn byw.
Enw'r eneth yw Eluned Elen Huws; mae hi o oed ysgol gynradd ac yn un o dri o blant gyda'r hynaf, Dafydd, wedi gadael y cartref. Cyfeirir ato bob amser fel, "Dafydd sy ar y m么r".
Yr ail blentyn yw Ifan sydd ychydig yn hynach nag Eluned.
Mae s么n hefyd am bedwerydd plentyn, Cledwyn, a fu farw gydag Eluned yn cyfeirio at ei farwolaeth sawl gwaith yn y nofel.
Er nad yw Eluned yn gwybod rhyw lawer am Cledwyn, mae hi'n amlwg i'w farwolaeth effeithio'n fawr arni.
Y Chwedegau
Nid oes cyfeiriad manwl at y cyfnod ond gellir tybio mai yn y Chwedegau y lleolir y nofel gyda chliwiau fel cyfeiriad at raglenni teledu fel Bonanza a Mr Ed.
Ond cyfnod llwm oedd hwn o'i gymharu 芒'n hoes ni. Mae cyfeiriad at gomics yn cael eu pasio o un plentyn i'r llall a phapur t欧 bach caled yn yr ysgol. Mae hefyd yn gyfnod pan oedd merched yn gwisgo 'costiwm' ar gyfer achlysuron arbennig.
Fel 芒'r nofel yn ei blaen daw'n amlwg mai teulu rhyfedd iawn yw Teulu Brwyn Helyg.
Hoff o'i ddiod
Mae'r tad, Maldwyn, yn hoff o'i ddiod ac yn mynychu'r Red Lion yn rheolaidd gan ddychwelyd adref yn feddw a deffro pawb yn y t欧 gyda'i s诺n.
Mae o'n honni iddo ladd Eidalwr yn ystod y rhyfel ac yn un o'rDesert Rats yng Ngogledd Affrica.
Mae mam Eluned yn ddynes ryfedd iawn hefyd gydag Eluned yn dweud iddi weld ei mam yn cicio'i brawd, Ifan - ond nid oes unrhyw eglurhad pam.
Mae cyfeiriad hefyd at ei mam yn cr茂o ar wahanol adegau ac yn byw ar ei nerfau.
Rhai rhyfedd
Ceir cyfeiriadau difyr am deulu a chydnabod a rhai ohonynt hwythau hefyd yn gymeriadau rhyfedd iawn; Yncl Llew yn tynnu ei ddannedd ei hun gyda phinsiars, Anti Iwnis gyda gwallt pinc ac Yncl Daniel wedi smalio ei fod o'n wallgof er mwyn osgoi mynd i'r rhyfel a Ned eis-cr卯m gyda'i ewinedd budron yn gwerthu hufen i芒 gyda rhew fel gwydr ynddo.
Mae Eluned yn cofio ei hamser yn yr ysbyty ar gyfer tynnu ei phendics. Roedd hwn yn brofiad annymunol dros ben; roedd y tatws yn lympiau ac un nyrs yn arbennig o flin.
Gwahanol
Nofel wahanol iawn yw hon.
Rhaid ei darllen yn ofalus - a darllen rhwng y llinellau ar brydiau.
Mewn gwirionedd, dylid ei darllen fwy nag unwaith gan fod mwy yn dod i'r amlwg bob tro gyda phob darlleniad.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi