91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhodd Mam
Y gwahaniaeth rhwng argyhoeddi a llwyr argyhoeddi

Adolygiad Vaughan Hughes o Rhodd Mam gan Mary Annes Payne. Cyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint 2007. Gomer. 拢6.99.

Rydw i wedi cael y drafferth ryfeddaf i redeg fy llinyn mesur dros nofel fuddugol Mary Annes Payne yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith eleni.

Clawr y llyfr

Mae'r sawl sy'n dod i'r brig yn y gystadleuaeth hon yn gwneud mwy nag ennill medal a gwobr ariannol.

Ac nid gweld cyhoeddi'r gwaith, na'r gwerthiant iach a ddaw yn sgil ennill y Fedal, yw pennaf ysbail yr enillydd. Arwisgir hi - neu ef - hefyd 芒'r teitl Prif Lenor.

Dydw i ddim yn awgrymu am eiliad bod Ms Payne yn annheilwng o'r teitl hwnnw. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Mae ei gafael ar Gymraeg llafar Sir F么n yn chwedegau'r ganrif ddiwethaf yn argyhoeddi bron yn ddieithriad.

Prin iawn yw'r llithriadau, megis cyfeirio at y weithred o besgi mochyn fel ei "dwchu". Yn amlach na pheidio, dotio a rhyfeddu oeddwn i at ei gallu greddfol i ddefnyddio geiriau y mae pobol bellach, hen ac ifanc, wedi rhoi'r gorau, i bob pwrpas, i'w defnyddio.

Mewn perlewyg
Fedra i ddim talu gwell teyrnged i Mary Annes Payne na dweud y byddai'r Athro Bedwyr Lewis Jones mewn perlewyg pe byddi wedi cael byw i ddarllen ei defnydd hynod o dafodiaith M么n.

Gan ymarfer cryn dipyn o ras ataliol cyfyngaf fy hun i'r enghreifftiau canlynol: "sbrencs" yw'r d诺r sy'n tasgu i bobman wrth i gi gwlyb ysgwyd ei hun, "wardio" yw cysgodi neu led guddio, "sgrwff" yw hen borfa wael, "jobio" eich esgidiau gorau yw eu maeddu a'u cam-drin, a "rhedeg am 'yn hoedal" fydd person sydd wedi dychryn.

( Yn arwyddocaol doedd gan CySill 3.0 ddim syniad beth oedd eu hystyron. Ac yn eironig doedd o ddim yn gwybod ychwaith beth oedd CySill!)

Rhag ofn imi gael fy nghyhuddo o ramanteiddio'r gorffennol, priodol yw cydnabod bod llawer iawn o sgyrsiau'r cyfnod yn frith o eiriau Saesneg.

Gwylio'r " telifision" mae pawb. Does gan neb deledu. Neu beth am y frawddeg hon?
"Yn y weitin r诺m ma'r cadeiriau'n galad fel yn 'rhospitol, a pobol yn ista'n syth fel polion ofn gwenu na siarad, a'r distawrwydd yn drwm fel 'rawyr pan mae hi'n hel terfysg...".

Efallai bod yr eirfa'n Gymreiciach erbyn hyn (Heddiw cael eu cludo "to Ysbyty Gwynedd" mae pobol, hyd yn oed ar y bwletinau newyddion Saesneg).

Ond craffwch eto ar y frawddeg a ddyfynnais uchod. Mae hi'n cynnwys geiriau Saesneg, ydi, ond edrychwch ar y defnydd naturiol braf o'r Gymraeg a'r gafael di-feth ar gystrawen a rhythm naturiol brawddeg.
Mae angen mwy na geirfa Gymraeg i ysgrifennu Cymraeg.

Y caswir
A dyma ddod- o'r diwedd- at y cynnwys. Dwi'n amau imi oedi cyhyd rhag datgelu'r caswir, yn fy marn i.

Mae arnaf ofn nad oes gen i fawr o ddim i'w ddweud wrth Luned, chwech oed, llefarydd person cyntaf y nofel, na'i theulu.

Disgrifir nhw gan Jane Edwards yn ei beirniadaeth fel "y teulu mwyaf dysfunctional i mi ddod ar ei draws erioed mewn nofel Gymraeg."

Ond mae hynny'n gallu bod yn ddiddorol a difyr eithriadol, fel y dengys poblogrwydd rhyfeddol y Simpsons.

Doeddwn i ddim yn cael Luned, ei phiwan o fam ddolurus, ei thad meddw, na'i chymharol normal nain, na neb arall, yn arbennig o ddiddorol. A bod yn onest doedd fawr o ots gen i amdanyn nhw.

Croniclo cyfnod
Cryfder a champ Mary Annes Payne yw ei gallu i groniclo cyfnod a chymdeithas ac arferion sydd ar fin darfod.

Pwy bellach sy'n bwyta wyau ieir d诺r?
Faint sy'n dal i rwbio dail tafol ar losg danadl poethion?
Sawl un fedr ddisgrifio nyth y wennol fel "cwpan o fwd" ar wal wyngalchog y cwt lloi?
A dim ond rhywun sydd wedi syrthio a brifo ei goesau sy'n gwybod bod cae gwair yn syth ar 么l i'r cynhaeaf gael ei gasglu "fel brwsh sgwrio mawr dan 'y mhen-glin..."
Disgrifio gwir gampus.

Mae ffermwyr y nofel yn dal i gerdded eu gwartheg o gae i gae ar hyd y ffyrdd fel y gwnaethon nhw ers canrifoedd. Ond erbyn hyn "chwifio ei ffon a gneud s诺n fel Rawhide ar y telifision" mae ei thad a gweddill ffermwyr M么n .

Yn ogystal 芒'r tractor a'r belar yn y cae gwair, erbyn hyn mae 'na " helicoptar" hefyd yn hofran uwch ben y cae. O ydyn, mae pethau'n newid am byth.

Peri dryswch
Yr unig beth sy'n peri dryswch imi yngl欧n 芒'r portread ardderchog a geir yma o'r gymdeithas yw pryd yn union y mae'r hanes yn digwydd.

Blas y Chwedegau cynnar, cynnar, sydd ar y digwyddiadau. Ac eto mae un o'r cymeriadau - yn wyrthiol, nid Dad! - yn gorfod chwythu i anadliedydd ar 么l bod mewn damwain car.

Yn 1967 y cyflwynwyd yr anadliedydd am y tro cyntaf. Ond yn 1964 yr ymddangosodd y ffilm "newydd", My Fair Lady, y mae Luned yn ysu am ei gweld.
Hollti blew?
Efallai wir.
Ond pethau bach sy'n gwnned y gwahaniaeth rhwng argyhoeddi neu beidio 芒 llwyr argyhoeddi.

Erbyn 1967 roedd Sgt. Pepper y Beatles wedi ymddangos, a'r Blew wedi chwarae yn y Babell L锚n yn Steddfod Y Bala.
Nid dyna'n hollol Gymru'r nofel hon.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwobrwyo Mary Annes Payne

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy