| |
|
|
|
|
|
|
|
Prifio Portread gonest a didwyll i'w drysori
Adolygiad Gwenll茂an Rowlinson o Prifio gan Maureen Rhys.
Gomer. 拢7.99 - Clawr meddal. 127tt.
Anrheg Nadolig oedd Prifio ac anrheg yr oeddwn wedi crybwyll yr hoffwn ei chael yn fy hosan.
Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn darllen llyfr gan actores adnabyddus - hynny oedd yn apelio, a chefais i mo fy siomi.
Mae teitl yn ddifyr ynddo'i hun, yn awgrymu datblygiad unigolyn trwy bob agwedd o'i bywyd a hynny a gawn.
Dysgais gryn dipyn am Maureen Rhys yn ferch fach, yn ferch ifanc, yn actores ac yn wraig.
Fe'i magwyd gan ei nain ac mae ganddi dri brawd.
Dysgais hefyd am gyfnod arbennig drwy'r llyfr - y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd gyda setiau gwahanol o ddillad i'w gwisgo ar adegau arbennig.
Wrth gwrs, mae'r byd actio yn ganolbwynt i'w bywyd a hithau yn ei helfen ar lwyfan.
Roedd ynddi awydd, meddai, "i blesio, i gael eich dilyn fel ffefryn" ac i fedru bod yn rhywun arall ar wah芒n iddi hi ei hun.
Cyfnod y Coleg wedyn a chyfarfod 芒'i g诺r John Ogwen sydd hefyd yn actor.
Ymddengys hwn yn gyfnod llawn hapusrwydd iddi gyda gwaith actio amrywiol a diddorol.
Dyma'r byd sy'n cael ei bortreadu yn gelfydd yn y llyfr.
Wedi ei rannu yn benodau hwylus mae'r llyfr yn ymdrin 芒 sawl agwedd ar ei bywyd amrywiol a gwelwn mai Maureen Hughes ydi hi'n ei bywyd priodasol, ond Maureen Rhys yn actio!
Dywed yn y bennod O Flaen y Camera mai "gwaith llwyfan ydi'r gorau gen i o bell ffordd" ac mae'r llyfr yn adlewyrchu drwyddo draw ysblander Maureen Rhys ar lwyfannau Cymru a hynny mewn ffordd dawel ac effeithiol iawn.
Mae'r arddull yn syml ac agos atoch a'r hanes yn hawdd ei ddarllen gyda chyfoeth o iaith naturiol rhwng y cloriau.
Hefyd, mae casgliad diddorol o luniau ardderchog ; y cyfan yn gwneud hwn yn hunangofiant a ddylai fod ar silff pob Cymro gwerth ei halen ar sail ei bortread gonest a didwyll o un o actoresau mwyaf ein cenedl. Yn sicr ddigon, llyfr i'w drysori a'i fwynhau yn fawr yw Prifio. Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad a sgwrs gyda Maureen Rhys
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|