|
Prifio Hunangofiant Maureen Rhys
Adolygiad Glyn Evans o Prifio - hunangofiant Maureen Rhys. Gomer . 拢7.99.
Rhagfyr 4 2006
Cyhoeddwyd tair cyfrol ar ddeg y Nadolig hwn a oedd un ai yn gofiannau neu hunangofiannau.
Ond dim ond un ohonyn nhw a sgrifennwyd gan ferch.
Nid bod dim yn anarferol yn hynny - gellid cyfrif ar fysedd un llaw sawl merch fu'n cofio neu'n cael ei chofio dros y pum mlynedd diwethaf.
Ac y mae hynny'n drueni - nid ar sail unrhyw syniad o gwot芒u merched ond oherwydd y perygl mai dim ond golwg wrywaidd o'n gorffennol fydd gennym ni gan golli y pethau hynny y byddai merched yn dueddol o sylwi arnyn nhw.
Er enghraifft yn y cofiant hwn mae Maureen Rhys yn cyfeirio at arferion gwisgo a choluro merched ifainc ddiwedd y Pumdegau.
"Mae'n anodd credu nad oedd y ffasiwn bethau a tights yn bod, na teenagers chwaith," meddai gan ychwanegu mai digon di-liw oedd y dillad nes i "ffenomen" o'r enw Brigitte Bardot ddod i'w bywydau.
"Y genod eisiau gwisgo yr un fath 芒 hi . . . Mi daeth yn ffasiwn i wisgo ffrogiau gingham a belt yn dynn, dynn, am y wasg. O dan y ffrog mi fydda rhai mwy ffasiynol na'i gilydd yn gwisgo mwy nag un bais 'net' gwmpasog ac ambell un hyd yn oed yn golchi'r peisia mewn d诺r a siwgwr er mwyn cael y ffrog yn fwy cwmpasog fyth."
Dim ond ychydig o golur Dywed mai ychydig iawn o golur oedd ar gael ond ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd yr oedd Creme Puff a oedd yn "rhyw fath o bowdwr solet" ac wedyn Yardley's Feather Finish yn "hylif eithaf trwchus fyddai'n tueddu i roi'r argraff bod rhywun wedi disgyn i focs paent."
Y lipstig mwyaf ffasiynol bump a deugain o flynyddoedd yn 么l oedd un o'r enw iced pink!
Manion difyr na fyddai dyn yn meddwl eu crybwyll.
Plentyndod Llwydda hunangofiannydd benywaidd unig Nadolig 2006 ac un a ddaeth gyda'r fwyaf blaenllaw o actorion Cymru i ddod 芒'r cyfan o'i bywyd i fwcwl mewn cyfrol gryno o ddim ond 127 tudalen.
Mae'r llyfr yn cynnwys hefyd nifer fawr o luniau yn amrywio o ddyddiau plentyndod i'w dyddiau ar lwyfan a sgrin.
Hanesion ei phlentyndod, ei magwraeth a'i thyfu i fyny apeliodd fwyaf ataf i yn hytrach na'r catalog o gampweithiau actio yn yr hyn ydw i'n ystyried yn 'ail ran' y gwaith. Ac heb os fe fu yna gampweithiau.
Ond er ei bod yn cymryd ei chrefft o ddifrif llwydda i wneud hynny heb ymddangos ei bod yn cymryd ei hun ormod o ddifrif ac y mae yma elfen o wyleidd-dra braf.
Tynnu coes Mae tynnu coes hefyd - ac fe fwynheais i hwnnw yn fawr iawn.
S么n yr ydw i am 'gyfieithiad' - Gareth Miles ddywedir yma ond doeddwn i ddim yn cofio hynny - o ddrama newydd gan Ionesco a syfrdanodd feirniaid a chynulleidfa fel ei gilydd mewn g诺yl ddrama yng Nghaerfyrddin ddechrau'r Chwedegau.
"Oherwydd bod yna gyfarfod o'r Academi hefyd yn cael ei gynnal yn yr un lle, roedd yna nifer fawr o bobl y Pethe wedi casglu dan yr unto," meddai Maureen gan eu disgrifio yn heidio i weld y perfformiad.
Canolbwynt y llwyfan oedd ffynnon a llaw yn dod ohoni o bryd i'w gilydd er mawr benbleth i'r cymeriadau.
"Dyna, dwi'n credu, oedd sail y ddrama a hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno neges am ystyr neu ddiffyg ystyr bywyd," meddai Maureen.
Awn ni ddim i fanylu yma am weddill y ddrama ond bydd rhai yn dal i gofio'r canmol a fu arni ymhlith deallusion drama.
Dim ond wedyn, fel y datgela Maureen, y cyfaddefodd y criw tu 么l i'r digwyddiad mai tynnu coes oedd y cyfan.
"Wn i ddim pwy oeddan nhw i gyd, dim ond clywed crybwyll enwau fel Gwenlyn, Huw Lloyd Edwards, John Gwilym Jones a Geraint Jones wnaethon ni.
"Wedi dod at ei gilydd yng Nghaerfyrddin oeddan nhw i ysgrifennu 'sb诺ff', heb freuddwydio y byddai cynifer o bobl yn cael eu twyllo. Naill ai hynny, neu i geisio profi pa mor hawdd oedd hi i dwyllo mewn oes pan oedd geiriau fel 'abs岷價d' a 'symbolaidd' yn cael eu taflu fel smartis o gwmpas y lle," meddai.
Rwy'n credu y byddai'n eithaf diogel dweud mai'r ail sy'n gywir ac fe atebodd y diben ac mae hanes Y Ffynnon yn parhau'n wers i feirniaid sy'n rhy barod i ddweud yr hyn ddisgwylir iddyn nhw ddweud a diolch i Maureen am ein hatgoffa o'r digwyddiad.
Gyda'i Nain Ond yn 么l i'r cychwyn - mae'r stori, stori Maureen hynny yw, yn cychwyn yn ardal Cwm-y-Glo ( er mai Cwm y Glo yw'r ffurf a ddefnyddia hi, hogan y pentra) rhwng Caernarfon a Llanberis a chawn yn y gyfrol ddarlun byw iawn o fywyd geneth yn cael ei magu gan ei nain yn y pedwar a'r pum degau a hynny'n gwneud bywyd rywfaint yn wahanol i gael eich magu ar aelwyd eich rhieni.
"Mam 'y nhad oedd Sarah Catherine, ac o fewn pedair wal ein t欧 ni, unig blentyn oeddwn i. Dim ond ychydig i lawr y l么n yr oedd Dad a Mam, Michael, Meurig ac, yn ddiweddarach, Malcolm yn byw - ond ar wah芒n i ni'n dwy." Yn unig blentyn gyda brodyr, felly!
Eisiau bod yn lleian Ar y llwyfan hwn yr oedd i grefydd - wel, i gapel - ei le pwysig a mynychu'r Ysgol Sul yn rhan o'r ddefnod wythnosol.
"Ar un adeg yn ystod y gwasanaethau mi fyddwn i'n cael y teimlad cryf yma fy mod i'n berson mor dda, fel y dylwn i fod yn lleian. Mi barodd y teimlad hwnnw am beth amser. I brofi i mi fy hun pa mor dda oeddwn i, mi fyddwn yn gorfodi fy hun i feddwl am eiriau hyll. Geiriau fel 'diawl' ac 'uffern' a 'blydi'," meddai.
Rhywbeth a aeth heibio oedd hynny, meddai, ond arhosodd pethau ffurfiannol eraill hyd heddiw; fel yr ysfa i berfformio ac i drin geiriau a'r mwynhad sydd i'w gael o hynny ac fe fydd ei hatgofion yn sbardun i eraill o'r un genhedlaeth gofio eu plentyndod hwythau yn ogystal 芒 bod yn agoriad llygad i eraill ieuengach.
Gwneud dillad Darllenwn ei disgrifiadau o baratoadau pasiant yr un adeg ag yr oedd aelod blaenllaw o'r Eglwys yng Nghymru yn cwyno am duedd rhieni heddiw i brynu gwisgoedd parod ar gyfer dram芒u geni'r Nadolig yn hytrach nag ymuno yn yr hwyl o wneud rhai eu hunain i'w plant.
Honno yw'r drefn y mae Maureen hithau yn ei chofio:
"Buom yn ymarfer yn galed am wythnosau - nid ni'r plant yn unig ond y rhieni hefyd, yn morol am y gwisgoedd, yr ochr dechnegol a hyd yn oed anfon i ffwrdd am golur llwyfan.
"Collodd ambell i d欧 lieiniau byrddau, cyrtansiau a chynfasau gwl芒u yn y cyfnod hwnnw.
"Byddai fy mam yn gallu gweddnewid darn di-nod o ddeunydd i fod yn gant a mil o wahanol bethau, a gallai wneud i ychydig fynd ymhell.
"Cynfasau cotwm gwyn oedd gan bawb bryd hynny, felly tasg fy nain oedd llifo ambell un. Nid bod llifo dillad yn beth anghyffredin yn y pum degau. Dyna'r ffordd orau bosibl i weddnewid dilledyn. Mewn ychydig oriau gallasai blows bygddu droi allan yn flows werdd drawiadol. Mi fydda 'na ferwi d诺r am oria yn y crochan bach ar y stof baraffin. Allan yn y cwt bach oedd honno a'r lle yn st锚m i gyd . . ."
Mae rhywun yn clywed yr arogleuon wrth ddarllen.
Mae gan Maureen Rhys ddawn arbennig i ddeffro ac i oglais y synhwyrau yn ymddangosiadol ddiymdrech fel hyn a hynny mewn Cymraeg braf i'w darllen.
Dawn hefyd i gyfleu diniweidrwydd a rhyfeddod plentyn mewn oes a oedd mor wahanol i heddiw.
"Yr oedd yna," meddai wrth grynhoi ei magwraeth, "fwy o gamp nag o remp yn 'y nghartra i ac yn y gymdeithas y maged fi ynddi."
I'r brifysgol Yn y Brifysgol ym Mangor y pesgwyd defnyddiau crai y cyfnod ffurfiannol ac fel y dywedai sawl un arall o'r un cyfnod yr oedd y llenor, dramodydd a beirniad llenyddol John Gwilym Jones yn dra dylanwadol.
"Wyddwn i ddim beth oedd drama o'r creu i'r perfformiad," meddai Maureen.
"Yng ngeiriau John Gwil ei hun, '... nid rhyw adloniant i dreulio dwy awr ddifyr a dim byd arall yw drama, ond yn hytrach cyfrwng cyfrifol i fynegi profiad. Ond, ac mae'n ond mawr, mae'n rhaid cofio ar yr un pryd fod yn rhaid i'r ddwy awr fod yn ddifyr."
Mae'n ei ddyfynnu hefyd yn dweud: "Nid pregath ddylai drama fod, ond nid oes reswm ar y ddaear dros iddi beidio 芒 bod cystal 芒 phregath'!".
Rhyw Gymro Rhaid i bob cofiant gwerth ei halen wrth binsied o straeon bachog - ei anectodau - ac y mae rhai yn Prifio a'r orau gen i:
Cynhyrchydd yn gofyn i John Gwilym Jones a fyddai'n fodlon sgrifennu drama newydd ar ei gyfer. John Gwilym Jones yn dweud fod ganddo Hanes Rhyw Gymro.
Wedi eiliad neu ddwy o ddistawrwydd y cynhyrchydd yn gofyn:
"Oes gynnoch chi ryw Gymro mewn golwg, Mr Jones?"
Cyfrol fer, felly, ond rhwng popeth yn ddarllenadwy ac yn ddifyr - a chan ferch, diolch am hynny, hefyd.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Maureen Rhys
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|