Adolygiad Leigh Jones o M么r-Ladron Cymru gan Dafydd Merion. Lolfa.
Mae m么r-ladron yn rhan fawr o ddiwylliant poblogaidd y ganrif hon, yn enwedig ar y we fyd-eang.
Heb amheuaeth, bu rhan bwysig gan y ffilm Pirates of the Caribbean yn atgyfodiad m么r-ladron yn y diwylliant poblogaidd.
Gan fod nifer o f么r ladron mwyaf enwog y byd yn dod o Gymru, doedd hi ddim yn syndod ffeindio fod hanesion m么r-ladron Cymru wedi'u chasglu a'u rhoi mewn llyfr.
Casglu'r straeon a'u haildrefnu oedd unig waith Dafydd Meirion ar gyfer y llyfr hwn.
Mae'r straeon a'r hanesion yn ddiddorol iawn ac mae hi hefyd yn ddifyr gweld fod nifer o'r ystrydebau sy'n bodoli yngl欧n a'r m么r-ladron nid yn unig wedi'u seilio ar ffeithiau ond yn rhan o'u byw bob dydd.
Er hyn, roedd hi'n siomedig darllen mai dim ond un enghraifft a gofnodwyd o bobl yn cael eu gorfodi i gerdded y planc!
Mae perthynas y straeon 芒 Chymru yn un y gall unrhyw Gymro ymfalch茂o ynddi ac rwy'n falch, er fy mod yn byw mewn ardal heb unrhyw gysylltiad 芒'r m么r (heblaw am y ffaith eich bod chi'n gallu ei weld o ben bryn), fod yna d诺r lai na milltir o'm cartref a godwyd i gadw golwg am f么r-ladron.
Er bod y llyfr hwn yn gyfeirlyfr gwych i rai sy'n chwilio am awdurdod ar hanesion m么r-ladron Cymreig ac, yn wir, m么r-ladron yn gyffredinol; yn anffodus, dim ond casgliad o straeon sydd ynddo a hynny heb lif pendant i'r casgliad hwnnw.
Mae gwell llif i ail hanner y llyfr lle canolbwyntir ar fywyd rhai m么r-ladron mewn mwy o fanylder.
Er bod hwn yn llyfr y byddaf yn cyfeirio'n 么l ato yn y dyfodol ni fyddaf yn ei ddarllen eto am y pleser o'i ddarllen.
Adolygiad ar Gwales
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi