|
M么r-ladron Cymru Dynion brith ar frig y don!
Adolygiad Lowri Rees o M么r-ladron Cymru gan Dafydd Meirion. Lolfa. 拢5.95
Yn blant arferem yn gyson ddychmygu ein bod ar fwrdd llong Barti Ddu, yn chwifio ein cleddyfau plastig, yn gweiddi ac yn bytheirio ac wedi ein gwisgo yn drwsiadus mewn lifrai lliwgar a gorchudd dros ein llygaid.
Go brin bod plentyn yng Nghymru nad yw ar ryw adeg wedi edmygu'r Gw欧r hyn a fu'n ysbeilio llongau, yn dwyn ac yn cwffio.
Yr holl gyffro ac antur yn tanio dychymyg plentyn.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf tyfodd mwynhad y plentyn yn hoffter o wylio ffilmiau a darllen llyfrau yn ymwneud 芒 hanesion ein m么r-ladron .
Dyna pam y bu imi wirioni cymaint clywed bod gan Dafydd Meirion lyfr ar y farchnad a fyddai yn ateb ambell i gwestiwn ac yn rhoi mwy o hanes y dynion brith yma.
Mwy na neb Yn 么l rhai, mae Cymru wedi codi mwy o f么r-ladron am bob milltir o arfordir nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.
Yn bendant roedd ysbeilio ac ymladd ar y m么r yn rhywbeth yr oedd y Cymry'n disgleirio ynddo, gyda rhai o'n m么r-ladron, fel Barti Ddu, Harri Morgan a Hywel Dafis, ymhlith y rhai mwyaf 'llwyddiannus' erioed.
Mae'r gyfrol yn cychwyn trwy egluro beth yn union ydoedd m么r-leidr, sut y bu iddynt gychwyn gan gynnwys rhai o'r straeon difyrraf am y m么r-ladron a'u bywydau cyffrous, treisgar a meddw.
Ar Feibl Cymraeg Meddai Dafydd Meirion: "Mae 'na hanes difyr iawn i'r m么r-ladron Cymreig fel Harri Morgan, er enghraifft, a enillodd dros filiwn pieces of eight yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a arweiniodd gannoedd o ysbeilwyr yn y Carib卯 am ddegawd cyn cael ei benodi'n Is Lywodraethwr Jamaica. Dyn a fu farw'n ddiweddarach o effeithiau gor-yfed rym.
"Dyn mwy cymedrol ar un wedd ond yr un mor ddiddorol oedd Barti Ddu - y cyntaf i godi baner yr esgyrn a'r penglog - dyn oedd yn fwy hoff o'i de ond a fynnodd fod ei griw yn tyngu llw o ufudd-dod ar Feibl Cymraeg."
Doedd neb enwocach - na chyfoethocach na Henry Morgan o Lanrhymni ac er mai cael eu lladd mewn ysgarmesoedd neu ddiweddu eu hoes ar grocbren oedd tynged y rhan fwyaf, marw yn ei wely wnaeth Morgan - a hynny'n bennaf o effaith yr holl rym yr oedd wedi ei yfed.
Yn y gyfrol cawn hefyd dudalennau o hanes Barti Ddu.
Dyma ddyn a ysbeiliodd dros 400 o longau mewn dwy flynedd ac yn ystod ei yrfa dywedir iddo gipio gwerth 51 miliwn o bunnau o aur a thrysorau.
Credir i Barti Ddu adael ei bentref genedigol yn ddeg oed i fynd ar y m么r ac yn 么l y s么n bu iddo gael gyrfa lwyddiannus yn llongwr bach cyffredin
Pan fu i Hywel Dafis, m么r-leidr adnabyddus arall, ymosod ar y llong Princess rhoddwyd dewis i'r criw , ymuno ag o, neu gael eu gadael ar y tir agosaf.
Dewisodd Barti Ddu ymuno.
Disgyblaeth lem Roedd ef yn f么r-leidr gwahanol iawn. Credai mewn disgyblaeth lem. Roedd yn rhaid i bob un o'i griw dyngu llw ar Feibl Cymraeg na fydden nhw yn cweryla, rhegi na chwarae cardiau a'r ffwrdd y llong ac yr oedd yn rhaid diffodd y golau erbyn wyth o'r gloch bob nos.
Byddai'n cynnal gwasanaethau crefyddol ar ffwrdd y llong, a byth yn ymosod ar longau nac yn ysbeilio ar y Sul.
Roedd hefyd yn llwyrymwrthodwr. Ei hoff ddiod oedd paned o de.
Ond yr oedd ochr arall i'w gymeriad hefyd a'i enw yn codi ofn f么r ladron eraill!
Cosbai'n llym unrhyw un a fyddai'n torri rheolau - gan amlaf drwy ei rwymo wrth fast y llong a'i chwipio'n ddidrugaredd.
Cawn hanes ei anturiaethau a gwahanol straeon wrth iddo ymosod ar longau ar nifer o foroedd - y cyfan yn cadw diddordeb y darllenydd.
Mae'r disgrifiadau yn gryno iawn, a'r llyfr yn mynd i apelio at unrhyw un sydd yn mwynhau hanesion anturus da.
Nythle o f么r-ladron Nid ar foroedd pell yn unig y teyrnasai m么r-ladron Cymru - yr oedd rhai ar waith yn nes adref hefyd gyda sawl dogfen swyddogol o'r bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg yn s么n bod Cymru yn "nythfa i f么r-ladron".
Roedd Ynys Enlli yn y gogledd ac Ynys Byr yn y de yn bencadlys i f么r-ladron oedd yn ymosod ar longau.
Roedd yr ysbail yn cyrraedd nid yn unig gilfachau unig yn nhrymder y nos ond gefn dydd golau hefyd a hynny mewn porthladdoedd fel Biwmaris, Pwllheli, Aberteifi, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod a Chaerdydd.
Fel y dengys Dafydd Meirion, heb gefnogaeth y bonedd ni allai'r un m么r-leidr weithredu yn hir felly,nid yn unig yr oedd tirfeddianwyr pwerus Cymru yn eu gwarchod ond roedden nhw hefyd yn masnachu 芒 nhw.
Ysbeilwyr Mae hefyd s么n am ysbeilwyr fel Tomos Prys o Blas Iolyn a Phyrs Gruffydd, mab ystad y Penrhyn ger Bangor.
Rhoddir y cyd-destun Cymreig a rhyngwladol i egluro sut y llwyddodd cymaint o Gymry i wneud bywoliaeth fer, ond llawn hwyl, fel m么r-ladron.
Dal wrthi Ym mhennod olaf y llyfr mae Dafydd Meiron yn edrych ar y sefyllfa gyfoes gan ddweud bod lladrata ar y moroedd yn parhau hyd heddiw yn y Dwyrain Pell.
Yn 2003 bu 445 o achosion, meddai.
Cafodd 21 o forwyr eu lladd, mae 71 yn parhau ar goll yn dilyn ymosodiadau a chymerwyd 359 yn wystlon.
Ac mae hefyd yn parhau ar arfordir Cymru!
Mae'r llyfr yn drysor ac yn gyfle i unrhyw un sy'n mwynhau antur ddod i adnabod ffordd o fyw hen Gymry go frith.
Pan oeddwn yn blentyn arferai rhai ohonom ffraeo dros lyfr lliwgar Barti Ddu yn y llyfrgell - sicrhaodd Dafydd Meirion fod llyfr tebyg i oedolion heddiw.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Leigh Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|