|
Eira M芒n, Eira Mawr Prynu llyfr wrth ei glawr
Adolygiad Glyn Evans o Eira M芒n, Eira Mawr gan Gareth F Williams. Gomer. 拢6.99.
Gwnaeth y cyhoeddwyr dipyn o h诺 ha am y llun ar glawr y gyfrol hon gyda thynnu sylw ato mewn datganiad ac ar y radio er enghraifft.
Clawr wedi ei gynllunio gan seiciatrydd yw, y Dr Rhys Bevan Jones sy'n enedigol o Landysul ond yn awr yn byw yng Nghaerdydd.
Cymaint ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng seiciatreg a'r byd gweledol bu'n astudio Celf yn ym Mhrifysgol Kingston, Llundain, cyn cwblhau ei hyfforddiant seiciatryddol yn Ysbyty'r Eglwys Newydd, Caerdydd.
"Drwy edrych yn fanwl ar glawr [Eira M芒n, Eira Mawr] . . . fe welir dawn treiddgar yr arlunydd yn dehongli cynnwys y llyfr," meddir.
Ac yn wir y mae'n ddarlun trawiadol, hawdd syllu arno, hawdd dyfalu drosto.
Ond go brin bod angen ailadrodd yr hen adnod nad wrth ei big mae prynu cyffylog - ac nad wrth ei glawr y mae prynu llyfr - ac o glywed brolio'r clawr cwestiwn cyntaf rywun yw, A fydd y llyfr gystal a'i glawr?
Codi ofn Nofel arswyd yw hi, wedi ei lleoli yn nhref ddychmygol Aberllechi sydd yn hynod o debyg i Borthmadog lle mae'r awdur yn byw.
Yn y cyd-destun Cymraeg mae hi'n nofel eithaf hir yn 336 o dudalenau ac wedi ei chyhoeddi yn y gyfres Whap ar gyfer yr hiliogaeth brin honno, darllenwyr ifainc.
Plant ysgol a'u rhieni yw'r prif gymeriadau.
Anhawster pennaf adolygydd yw trafod y nofel heb ei difetha trwy gyfeirio at fanylion digwyddiadau a pherthynas pobl 芒'i gilydd.
Ond heb ddifetha dim gellir dweud fod chwilfrydedd darllenydd yn cael ei gosi o ddarllen bod holi a fydd hi'n Ddolig gwyn yn ennyn ymateb syfrdanol ymhlith rhai yn Aberllechi.
Mae'n gwestiwn sy'n ennyn eu gwg, yn codi ofn. Aiff rhai i'r drafferth o ddianc oddi yno dros yr 糯yl os oes darogan eira.
Pa aflwydd? Mae hyn yn cael ei wneud yn glir iawn yn gynnar yn y nofel a'r darllenydd ar bigau'r drain yn ceisio dyfalu pa aflwydd ddaw gyda'r eira.
Mae'r awdur yn cynnal y dyfalu anniddig y tu draw i ganol y nofel.
Mae digwyddiadau ym mhrolog dramatig y nofel sydd angen eglurhad hefyd.
Wrth ddarllen mae rhywun o fewn cyrraedd y pwynt hwnnw lle mae'n gofyn a yw'r awdur mewn peryg o orwneud yr elfen hon. Yn dal yn rhy hir gyda'r holl ensyniadau o ddirgelwch a gwae annelwig.
Y diferu gwybodaeth, ddefnyn ar y tro fel d诺r yn dripian yn ddafnau rhwystredig i bwced. Mae'n bosib cadw peth felly i fynd yn rhy hir.
Ond nid yma. Er bod yr awdur yn go agos i'r terfyn.
Saern茂o'n grefftus Mae hon yn nofel sydd wedi'i saern茂o'n grefftus a'i hamseru bron yn berffaith o ran braenaru'r tir - a gwell prysuro i ddweud hefyd ei bod yn addas ar gyfer pob oed ac fe fu'n bleser ymgolli ynddi - yn amserol iawn, dros Nadolig 2007.
Mae'r stori yn ymwneud a digwyddiad sydd angen ei ddial yn gysylltiedig ag Ows, Marc ac Anna ugain mlynedd yn 么l a'r digwyddiadau diweddaraf yn cael eu hadrodd, yn bennaf, drwy eu llygaid hwy ac Ifor a Lois, plant Ows a Marc, a thrwy lygaid Caren, merch g诺r gweddw sy'n canlyn Anna.
Ni'r darllenwyr ydi Caren - yn ferch sy'n cael ei hun yng nghanol dirgelwch a digwyddiadau na all eu dirnad ac wrth iddi hi gael ei goleuo yr ydym ninnau'n cael eu goleuo.
Cyfres o olygfeydd Cyfres o olygfeydd ffilmig eu natur drwy eu llygaid hwy a chymeriadau eraill yw'r strwythur gydag ambell i olygfa yn cael ei hailadrodd o'i gweld o safbwynt gwahanol ac y mae hwn yn ddull sy'n gweddu i'r dim o ran datblygiad ac yn ddull na fydd yn synnu y rhai hynny sy'n gwybod am ddiddordeb yr awdur mewn ffilmiau - diddordeb y mae ef ei hun yn gwneud defnydd pryfoclyd ohono ar adegau megis Caren yn ymddwyn yn ymwybodol fel 'arwres' ff么l ffilm ddychryn yn y bennod olaf (tudalen 297).
Gellir tybio mai anhawster pennaf awdur stori o'r fath yw dod 芒'r cyfan i fwcwl.
Y datgelu Un peth ydi creu'r dirgelwch, ychwanegu at ddrwgdybiaeth a thyndra a'r rhwystredigaeth o fethu 芒 gweld y darlun cyflawn - peth arall llawer iawn anos yw nid yn unig egluro'r cyfan mewn ffordd sy'n mynd i fodloni darllenydd ond hefyd roi caead ar y piser mewn modd nad yw'n siomi neu, yn waeth byth, yn gwneud i'r darllenydd deimlo i dric gael ei chwarae arno.
Dydi hynny ddim yn digwydd yma. Yn yr eglurhad y mae cyffro'r digwydd wedi'r holl ddyfalu ac mae'r bennod glo yn eithriadol; yn emosiynol ysgytwol ac yn gweddu i'r dim.
Pethau eraill Y mae lle hefyd i greu tyndra rhwng cymeriadau a darlunio peth o wewyr yr ifanc ar eu haeddfedrwydd - Caren, er enghraifft, yn ferch i 诺r gweddw sy'n ymgodymu ag euogrwydd wrth geisio ailafael yn ei fywyd a sefydlu perthynas a merch arall.
Gyda nofel arall a gyhoeddodd yn ddiweddar, am ferch yn diflannu o'i chartref, Adref Heb elin enillodd Garetrh F Williams wobr Tir na n-Og.
Bydd yn rhaid wrth waith arall go drawiadol i nacau i hon y wobr honno hefyd.
Cysylltiadau Perthnasol
Adref Heb Elin
Holi Gareth F Williams
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|