|
Adref Heb Elin Hunllef rhieni trwy lygaid chwaer fach
Adolygiad Glyn Evans o Adref Heb Elin gan Gareth F Williams. Cyfres Whap. Gwasg Gomer, 拢5.99
Fel nofel i rai dros naw ac unarddeg oed ac i ddarllenwyr yn eu harddegau y mae Adref Heb Elin yn cael ei disgrifio.
Ond y mae hi hefyd yn nofel a fydd yn apelio at oedolion, nid y farchnad ifanc yn unig. Gallai yn hawdd fod wedi ei chyhoeddi y tu allan i gyfres Whap i'r arddegau.
Hwyr o'r ysgol Wedi ei lleoli ym Mhorthmadog, mae'r nofel yn cychwyn gydag un o hunllefau mawr pob rhiant - un noson mae hi'n mynd yn hwyrach ac yn hwyrach ar un o'r plant yn dychwelyd adref o'r ysgol.
Am ychydig, dim ond 'hwyr' ydi Elin ond maes o law mae hi mor hwyr y mae'n rhaid galw'r heddlu a bywyd yn troi ar echel pob math o ofnau a phryderon wrth iddi ddod yn amlwg y gallai rhywbeth mawr fod o'i le - ond neb eisiau bod y cyntaf i gyfaddef hynny.
"Gwnaethpwyd ryw ymdrech ar f芒n-siarad, ond roedd y tri ohonom yn gwrando am s诺n y drws ffrynt yn agor a chau, ac 芒'r un frawddeg ar flaenau'n tafodau - y frawddeg fuasai'n gwneud i ni gyd ddechrau poeni go iawn petai un ohonon ni ond yn ddigon dewr i'w dweud yn uchel. Dydi hyn ddim fel Elin o gwbl."
Merch hynaf teulu o bedwar ydi Elin. Yn ferch bron yn 17 oed i Geraint a Miriam ac yn chwaer i Ceri Mai, 15 oed.
Ceri Mai sy'n dweud y stori. Trwy ei llygaid hi yr ydym ni yn cael byw yr argyfwng ac effaith absenoldeb Elin arni hi, ei rhieni ac eraill o'u cwmpas.
Tair rhan Mae'r nofel wedi ei rhannu yn dair dan y penawdau, Dechrau, Canol a Diwedd ddwy flynedd wedi'r cychwyn.
Heb amheuaeth cafodd Gareth F Williams hwyl nid yn unig ar greu sefyllfa afaelgar llawn tyndra ac amheuon ond hefyd ar ddarlunio'r berthynas rhwng y gwahanol gymeriadau a'i gilydd.
Mae'r darlun o'r ysictod sy'n ysu ac yn darnio perthynas y fam a'r tad yn gwir argyhoeddi a hawdd uniaethu ag Elin sy'n sylwi ar y cyfan a ddigwydd a'r effaith arni hithau hefyd.
"Diflannodd fy chwaer yng ngolau dydd, o'r Stryd Fawr - rhwng yr ysgol a'r orsaf am a wyddon ni, lle mae miloedd o geir yn gyrru'n 么l ac ymlaen drwy'r dydd a channoedd o bobol yn cerdded. Y chwaer nad o'n i'n ei hadnabod o gwbl, wedi camu allan o'r ysgol ac i mewn . . . i beth?" meddai Ceri.
Ie, dim ond yn dilyn y diflaniad a phan ddechrau'r heddlu ofyn cwestiynau am arferion y chwaer a'r ferch y sylweddola'r teulu bach mor brin yw eu hadnabyddiaeth o'i gilydd a chymaint yr agendor nid yn unig rhwng rhieni a phlant ond rhwng plant a phlant dan yr un gronglwyd.
Y gorau a'r gwaethaf Ac wrth gwrs mewn argyfwng o'r fath mae'r elfennau gorau a'r gwaethaf mewn perthynas deuluol yn codi i'r wyneb a hynny'n cael ei ddarlunio gyda chryn ddeheurwydd gan Gareth F Williams; yn arbennig y berthynas rhwng Geraint a Miriam y tad a'r fam.
O safbwynt y stori - ac o safbwynt y brif gynulleidfa yr anelir ati - syniad da fu adrodd y cyfan drwy lygaid Ceri sydd nid yn unig yn ail chwaer yn y berthynas ond hefyd, yn ei meddwl ei hun yn sicr, yn chwaer eilradd hefyd.
Dim ond weithiau, yn bur anaml, y mae rhywun yn teimlo fod y mynegiant yn henaidd a Cheri Mai yn defnyddio rhai ymadroddion h欧n na'i hoed - ond ni ddigwydd hynny yn ddigon aml i amharu ar bleser y darllen.
Yn islais i hanes y pryder am Elin mae stori'r berthynas rhwng Ceri Mai a Huw Gilmore sydd dan amheuaeth o fod 芒 rhywbeth i'w wneud 芒 diflaniad Elin ac yntau dros ei ben a'i glustiau mewn cariad o hirbell 芒 hi. Cariad gwrthodedig.
Diymadferth Diymadferthedd benben ag awydd i fod yn gwneud rhywbeth yw'r gelyn mawr mewn sefyllfa fel hon wrth gwrs - a chaiff hynny ei ddarlunio yn effeithiol iawn yn yr hanes am Geraint, Ceri a Huw yn mynd i Lundain i chwilio am Elin.
Mae rhywun yn rhagdybio y gallai'r nofel hon drosi'n hawdd i fod yn ffilm ac y mae olion o gefndir yr awdur yn y maes hwnnw yn yr adeiladwaith a'r gwrthdaro rhwng cymeriadau.
Hefyd yn yr aml gyfeiriadau gan Ceri at ffilmiau cyfoes - ond hynny, efallai, yn cael ei orwneud.
Y diwedd Gyda disgwyl, gofidio, pryderu a thindroi yn hanfod sefyllfa o'r fath hawdd iawn fyddai syrffedu darllenydd 芒'r syrthni hwnnw a gyfyd o ddiffyg symud ac y mae'r awdur i'w ganmol yn fawr am osgoi hynny a llwyddo i gadw'i ddarllenydd yr holl ffordd i'r diwedd.
Ac yno, wrth gwrs, y cyfyd y broblem fwyaf. Sut mae cau pen mwdwl stori o'r fath mewn ffordd sy'n argyhoeddi?
Rhag difetha'r stori ni ellir ateb y cwestiwn hwnnw mewn adolygiad - digon yw dweud nad yw rhywun yn cael ei siomi.
Ie, y casgliad anorfod am Adref Heb Elin yw ei bod yn whap o ddarllen difyr - i rai o bob oed.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Gareth F Williams
|
rhian ohh bechod fod nhw'n gadael heb elin llyfr dda xxx
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|