|
Heather Jones Richard Rees yn adolygu ei chofiant
Adolygiad radio gan Richard Rees o Gwrando ar fy Ngh芒n gan Heather Jones (gyda Caron Wyn Edwards). Dref Wen. 拢9.99.
Disgrifiwyd Heather Jones fel person "annwyl, agored ac onest" a gafodd amser anodd o ran gyrfa a bywyd personol yn y Saithdegau gan gyfaill iddi a fu'n s么n am yr hunangofiant a gyhoeddodd y gantores yn ddiweddar.
Yr oedd Richard Rees yn siarad am y llyfr ar
raglen Lisa Gwilym, 16 Rhagfyr 2007 ar 91热爆 Radio Cymru.
Canmolodd ef a Lisa Gwilym y gantores am ei honestrwydd wrth iddi drafod cyfnodau anodd yn ei bywyd yn bersonol ac yn broffesiynol.
"Dwi'n teimlo ei bod hi wedi bod yn onest iawn yn y llyfr yma - fel y bydde ti'n disgwyl iddi hi fod achos mae hi'n berson hollol str锚t, yn berson hollol agored ac mae'r llyfr mewn ambell i le yn eithaf cignoeth hefyd lle mae hi'n s么n am ei hysgariad er enghraifft," meddai Richard Rees.
"Mae ffeithiau'r ysgariad a manylion yr ysgariad - doedd dim syniad 'da fi ei fod wedi bod mor boenus ac mor anodd," meddai.
Cyfeiriodd hefyd at yr arwyddion o ansicrwydd yngl欧n a'i gallu ei hun ac o ddiffyg hunan hyder sydd yn y llyfr er iddi gyflawni cymaint fel cantores:
"Peth arall sy'n dod o'r llyfr yw . . . [bod] . . . yna ddiffyg hunanhyder rhyfedd . . . heb unrhyw reswm o gwbl achos yr ydym ni i gyd yn gwybod am y llais cyfareddol yna sydd ganddi - llais sydd ddim wedi gwaethygu o gwbl dros y blynyddoedd," meddai.
Ond er gwaethaf y cyfnodau du ac anodd, lle mae'n ei disgrifio yn gorfod troi cefn ar y s卯n Gymraeg dywed fod yr hunangofiant yn gorffen ar nodyn gobeithiol.
Wrth gytuno 芒 Lisa Gwilym i Heather Jones fod yn ddewr iawn yn cyhoeddi ei hanes hanes dywedodd:
"Dwi'n si诺r iddo fod yn boenus iawn iddi hi achos mae hi'n berson reit sensitif. Dyw hi ddim yn berson sy'n hoffi cwympo mas a dadlau a dwi'n si诺r ei bod hi wedi bod yn ddewr.
"Ond beth sy'n braf yw fod yna, tua diwedd y llyfr, s么n am y presennol ac am y dyfodol ac mae s么n am y plant . . . ac yn ymfalch茂o yn y teulu . . . Ac er ei bod yn dod at ei 60 mae'n dweud nad oes dim awydd ganddi hi roi lan a thra bo'r llais yn para mae hi'n mynd i bara ac rwyt yn cael yr argraff fod tro ar fyd wedi bod," meddai.
Cyfarfod gyntaf Ar ddechrau eu sgwrs soniodd Richard Rees sut y cyfarfu gyntaf 芒 Heather ddechrau'r Saithdegau.
"Yn y cyfnod yna roeddwn i'n cyfansoddi caneuon ac yn canu gyda git芒r ac mi wnes i benderfynu cystadlu yng nghystadleuaeth C芒n i Gymru 1972, yn 16 oed.
"Ac roeddwn wedi bod yn canu yn yr un cyngerdd neu Noson Lawen 芒 Heather ac wedi bod yn siarad 芒 hi ac fe f没m i'n ddigon ewn i ofyn iddi a fyddai hi'n fodlon canu gyda mi ar y t芒p at y gystadleuaeth [ac fe gytunodd]," meddai.
"Felly, un dydd Sadwrn dyma fi'n dala'r tr锚n lan i Gaerdydd gyda git芒r yn un llaw a pheiriant t芒p yn y llall. A phan wyt ti'n s么n am beiriant t芒p y Saithdegau rwyt ti'n s么n am wampyn o beth!
"Cario hwnna ar draws Caerdydd. Cnocio ar ddrws y t欧 a Heather a Geraint yna a hi'n jyst fy nghroesawu fi mewn i'r t欧, rhoi paned o de imi, gwrando arnai'n canu'r g芒n unwaith; harmoneiddio'r peth yn berffaith yn y fan a'r lle.
"Dyma fi'n rhoi'r peiriant t芒p ymlaen - roeddwn i'n eistedd ar un gadair, Heather ar y llall, a'r meicroffon bach sgw芒r llwyd yma yn y canol a jyst rhoi'r g芒n ar y t芒p.,br>
"A dyma fi'n danfon y t芒p off i'r gystadleuaeth.
A dyna'r diwethaf glywais i amdano fe!" meddai.
Ychwanegodd mai Dewi Pws enillodd gyda Nwy yn y Nen y flwyddyn honno gyda Heather ei hun yn fuddugol y flwyddyn wedyn gyda Pan Ddaw'r Dydd.
"Ond dyna pryd dechreuodd perthynas Heather a minnau," meddai gan ddweud fod yr achlysur yn enghraifft o'i pharodrwydd bob amser i helpu a chynorthwyo eraill.
Rhoi lliw i straeon Wrth ymhelaethu am gynnwys y llyfr dywedodd bod llawer o'r straeon nad ydynt yn newydd iddo ond bod nifer o ffeithiau ychwanegol difyr i'w lliwio.
"Roedd yna lot o ffeithiau difyr yn newydd. Er enghraifft . . . Bara Menyn. Yr oeddwn i'n gwybod ei bod hi a Geraint wedi cyfarfod Meic Stevens mewn siop chips yn Y Drenewydd ond . . . yn y llyfr [mae'n] s么n ei bod hi a Geraint yn gwisgo dillad Marks & Spencer . . . a'u bod nhw'n dod ar draws y rhith yma! Y math o glorwth o foi yma, [yn] gwisgo dillad du, gwallt hir, het am i ben ac yn cario git芒r.
"Mewn ffordd roedden nhw'n gymysgedd annhebyg iawn na fydde ti wedi disgwyl eu bod nhw wedi dod 'mlaen heb s么n am ddod at ei gilydd. Ond does dim amheuaeth fod Meic wedi cael dylanwad mawr ar Heather a Geraint o ran cerddoriaeth ac yn bersonol achos dydw i ddim credu fod Heather (16 oed) wedi gweld y math hyn o beth o'r blaen," meddai.
"Mae'n s么n yn y llyfr ei bod hi'n athrawes Ysgol Sul ac wedi cael bywyd, nid cul, ond eithaf normal . . . lan at y pwynt pryd roedd hi a Geraint yn cyfarfod Meic Stevens ac wedyn rwyt ti'n cael yr argraff fod popeth wedi newid o hynny ymlaen.
"Felly, roeddwn i'n gwybod am y stori ond mae lot mwy o liw ar y stori yn y llyfr," meddai.
'Pebble Mill' Cyfeiriodd hefyd at ei chyfnod ar Pebble Mill at One.
"Yn y cyfnod hwnnw roedd hi'n canu ar Pebble Mill at One - oedd yn mynd allan bob amser cinio ar y rhwydwaith ar draws Prydain Fawr.
"Ac roedd hi'n canu ar y rhaglen hon unwaith yr wythnos ac felly roedd hi hyd yn oed yn y byd Saesneg yn ffigwr cenedlaethol. Roedd hi'n enwog yn y byd Saesneg hefyd," meddai.
Stori yn y gyfrol na wyddai amdani, meddai, yw am ei chyfeillgarwch ag Annie Lennox.
Ymddengys bod gan honno stondin gwerthu dillad mewn marchnad yn Llundain a'i bod yn dod ag unrhyw beth oedd yn rhy fach i'w werthu i Heather gan ei bod hi mor fechan.
"Felly, mae cyfeillgarwch yma 芒 lot o bobl enwog iawn. Ond o siarad 芒 Heather fyddai hi byth yn dweud hynny wrthyt ti," meddai.
Ond er cyflawni cymaint yr oedd yn ferch mor ansicr ohoni'i hun y teimlodd bod angen torri cysylltiad 芒'r byd roc yng Nghymru yn dilyn ei hysgariad ac wrth i Geraint ddod i fwy o amlygrwydd.
"A'r canlyniad oedd troi at y band Wine and Roses yn canu caneuon Abba!
"Ac mae'n dweud i hynny fod yn rhyddhad iddi ac yn help - ond wedyn eto mae'r ansicrwydd yma yn ei gwneud yn anodd iddi ddod yn 么l i'r s卯n roc Gymraeg a chychwyn o'r cychwyn yn canu llais cefndir i'r Brodyr Gregory er enghraifft.
"Ac o'r llyfr mae'n amlwg bod yna siom fan yna a bod elfen o ddifaru iddi fod bant gymaint a'i bod yn gorfod ymladd mor galed i ddod n么l," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Heather Jones
Caerdydd
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|