| |
|
|
|
|
|
|
|
Ffydd Gobaith Cariad Darllenwyr yn anghytuno
Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007Disgrifiwyd yr awdur Llwyd Owen fel nofelydd ifanc hynod o hyderus y mae dyfodol llewyrchus o'i flaen yn ystod trafodaeth am ei nofel ddiweddaraf, Ffydd Gobaith Cariad (2006).
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Dyma'r nofel Gymraeg a ddewiswyd gan Catrin Beard ar gyfer rhifyn 9 Chwefror 2006 o Glwb Llyfrau Rhaglen Gaynor Davies ar 91热爆 Radio Cymru.
Mor wych "Beth ydw i'n meddwl sydd mor wych ydi mai dyma ail nofel Llwyd Owen mewn blwyddyn ac mae hi mor gyffrous fod gennym ni awdur ifanc sy'n sgrifennu mor hyderus ac yn gallu rhoi geiriau at ei gilydd mewn ffordd arbennig a chreu stori a chreu naratif sydd yn cydio a'ch cadw chi i ddarllen," meddai Catrin Beard.
Ond er bod Gaynor Davies, hithau, yn hael ei chanmoliaeth doedd yna ddim cytundeb llwyr yngl欧n 芒 rhagoriaeth y nofel gyda Dyfrig Jones, golygydd presennol Barn yn llawer mwy beirniadol.
"Wnes i ddim mwynhau - mae yna bethau da ac roeddwn yn meddwl fod y chwarter cyntaf yn gweithio'n dda iawn oherwydd ei fod yn cyflawni camp unrhyw un sy'n nofelydd da o'ch tynnu chi i gredu fod un peth wedi digwydd . . . ac wedyn rydych yn sylweddoli ar ryw bwynt [nad] beth oeddech chi'n feddwl [oedd wedi digwydd] ac roedd hynny'n gweithio'n dda," meddai.
Y prif gymeriad Ond ychwanegodd nad oedd y prif gymeriad, Alun Brady, yn argyhoeddi.
"Y drafferth oeddwn i'n gael oedd nad oeddwn i'n credu yn y cymeriadau ac yn benodol yn y prif gymeriad," meddai.
Ychwanegodd wedyn:
"Llais Llwyd oeddwn i'n glywed yn siarad nid llais y cymeriad."
Anghytunodd Catrin Beard a Gaynor Davies ill dwy ond ychwanegodd Dyfrig Jones:
"Rwy'n cytuno fod ganddo ddawn amlwg . . . ond mae yna dameidiau . . . ofnadwy . . . yn dweud pethau ddylem ni fod wedi medru eu deall nhw o'r sefyllfa," meddai.
Byddai'r nofel, meddai, wedi bod ar ei hennill o gael mwy "o ymyrraeth golygyddol".
Ond meddai Catrin Beard:
"Mae hon yn llawer mwy disgybledig na'i [nofel] gyntaf ac mae'n argoeli mor dda wrth iddo ddatblygu yn ei yrfa fel sgwennwr - dwi'n meddwl ei fod yn mynd i fod yn nofelydd pwysig iawn," meddai.
Darlledir Rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cliciwch uchod i glywed y sgwrs yn gyflawn.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Llais Ll锚n
|
dylan a daniel cymru yw'r gorau
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|