91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffydd Gobaith Cariad
'Dilyn yn naturiol o'i nofel gyntaf'. Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen. Lolfa. 拢7.95.

Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.


Adolygiad Glyn Jones:
Nid mynd a ni i fyd rhith a ffantasi y mae'r nofel hon ond ein llusgo'n ddyfnach i'r Gymru rydym oll yn ceisio troi'n cefnau arni.

Fel nifer o'n llenorion cyfoes, cocyn hitio Llwyd Owen yw Caerdydd ac mae'r awdur yn feirniad cymdeithasol heb ei ail.

Teulu'r Bradys yw canolbwynt y sylw. Teulu o'r dosbarth canol Cymraeg sy'n byw bywyd o gysur, cyfoeth a llwyddiant.

Ond nid yw'r mab, Alun, yn hapus. Mae ar drothwy ei ddeg ar hugain oed, yn sownd wrth swydd ddiflas, yn ddi-gymar, yn ddi-ffrind ac yn dal i fyw efo'i rhieni.

Ei stori ef yw'r stori hon ac wedi ei hysgrifennu yn y person cyntaf.

Troi yn Alun
Mae Llwyd Owen yn amlwg yn feistr ar ei gyfrwng a phan godwn y llyfr rydym yn troi yn Alun.

Ac eto, pan roddwn y llyfr i lawr, sylweddolwn nad yw ein bywydau bach syml ni mor syml wedi'r cwbl. Fel pob llenyddiaeth fawr, mae'r nofel hon yn gwneud i chi feddwl.

Mewn carchar
Dechreua'r nofel mewn carchar lle mae Alun ar fin cael ei ryddhau ond yn gyndyn iawn o adael oherwydd yn y carchar mae ganddo ffrindiau, mae ganddo gysgod, bwyd a chynhesrwydd.

Clawr y llyfr Ond y tu allan, fydd ganddo ddim ond ysbryd ei dad-cu yn gwmpeini.

Gwelwn amhosibilrwydd ei sefyllfa, ac fel mae'n rhaid iddo, mewn anobaith a dyled, droi at droseddu.

Er gwaethaf propaganda'r heddlu, gwelwn fod trosedd yn talu - yn y tymor byr beth bynnag - ac nad yw carchar yn gweithio o gwbl.

Pendilio
Mae'r nofel yn dilyn trend nofelau cyfoes o bendilio rhwng y gorffennol a'r dyfodol.

Mae stori Alun cyn y carchar mewn un print a stori Alun ar 么l cael ei ryddhau mewn print arall - y ddau mor debyg nes bod yn rhaid wrth chwyddwydr i wahaniaethu rhyngddynt.

Er nad wyf yn ffan fawr o'r dechneg hon mae'n gweithio yn rhyfeddol o dda yma. Wedi'r cyfan, ni allwn s么n am heddiw heb s么n am ddoe ac yfory ac mae'n fodd hefyd i alluogi'r awdur i gelu pethau rhagom drwy ddechrau stori ar ei chanol.

Sut ar y ddaear y bu i ddyn swil o ddosbarth cymdeithasol breintiedig landio yng ngharchar?

Ni ddatgelir yr ateb tan ddiwedd y llyfr bron.

Dyma awdur sy'n gwybod sut i gadw darllenydd i droi a throi'r tudalennau.

Yn llwyddiannus
Mae'r nofel yn llwyddianus am ei bod yn real.

Person go iawn mewn sefyllfaoedd go iawn sydd yma ac mae'n debyg bod cannoedd ar filoedd o Alun Bradys yn y byd; yr unigolyn trasic sy'n chwilio am gariad, sicrwydd, ffrind ac ystyr.

Thema fawr Tolstoy a Dostoevsky mewn nofel am Gaerdydd yr unfed ganrif ar hugain!

Ac eto, mae'n nofel hawdd i'w darllen a'r plot yn wirioneddol wych.

Ar fwy nag un achlysur mae'r darblygiadau yn ein siocio wrth i'r awdur wneud bywyd undonog yn gwch gwenyn o gynnwrf ac Alun yn baglu o un broblem i'r llall nes cyrraedd diweddglo sydd yn un o'r rhai grymusaf yn ein holl nofelau.

Hunangofiannol
Dywedodd yr awdur ei hun fod sawl elfen hunangofiannol i'r nofel. Efallai mai dyna pam fod yr ysgrifennu mor bwerus a theimladwy.

Gallwn uniaethu 芒 phob cymeriad, deall eu problemau a byw eu gobeithion.

Cawn ein gorfodi i wynebu sefyllfaoedd y byddai'n well gennym droi'n cefnau arnynt.

Dioddefwn gydag Alun o weld ei Dad-cu yn dioddef. Collwn ddagrau gydag ef pan yw'n ei helpu i ymadael 芒'r byd hwn ac arswydo o feddwl beth fyddem ni wedi'i wneud yn yr un sefyllfa.

Dyma awdur sy'n adnabod y natur ddynol ac yn medru creu cymeriadau lliwgar sy'n twyllo'r darllenydd.

Profi gwyrth
Ond nid nofel cwbwl dywyll mo hon.
Wedi osgoi damwain ddifrifol mae Alun yn profi gwyrth. Gw锚l ysbryd ei fam a'i dad yn dod i gyrchu ysbryd ei dad-cu i baradwys.

Mae'r darn hwn yn wirioneddol brydferth, ac fel Alun, canfyddwn ninnau achubiaeth o ryw fath.

Gwelwn fod ffydd, gobaith a chariad yn llechu yng nghwteri aflanaf cymdeithas.

Gwelwn hefyd beth yw'r canlyniadau erchyll o beidio 芒 dilyn y Goleuni hwn.

Mae'r awdur yn meddu ar ddychymyg miniog gyda disgrifiadau penigamp o wreiddiol ar flaenau ei fysedd:

"Chwysu fel menyw dew wrth stondin gacennau," meddai unwaith gyda gwreiddioldeb disgrifiadol sy'n brin yn ein nofelau lle mae tuedd i ddefnyddio'r un hen bethau diflas.

Gormod o Saesneg
Fodd bynnag, mae llawer gormod o Saesneg yn y nofel gyda thudalennau o ddeialog ynddi.

Deallaf y bwriad yn iawn - rhywbeth elitaidd yw'r Gymraeg yng Nghymru heddiw gyda'r werin yn siarad Saesneg ac yn rhegi bob yn ail frawddeg.

Digon teg, ond pe byddai pob llenor yn dilyn y trywydd hwn byddai dros draean ein nofelau yn Saesneg.
Camp y llenor yw bod yn greadigol.

Oes raid i Floyd, Mia a nifer o'r m芒n gymeriadau eraill siarad Saesneg?
Nagoes siwr.
Gallent hyd yn oed siarad rhyw gybolfa o Wenglish a fyddai'n fwy derbyniol o lawer yn ein ll锚n na Saesneg.

Wedi'r cyfan, mae'n fath sathredig o dafodiaith Gymraeg sydd i fi yn danos dylanwad Saesneg ar y Gymraeg yn well o lawer na defnyddio'r Saesneg yn unig.

Cymhathu geirfa i'r iaith sydd angen, nid defnyddio dwy.

Rhegi
Yn yr un modd, y rhegi - sy'n iawn yn ei le ond bod yna ormod braidd yn y nofel hon.

Wedi'r cyfan dangos diffyg geirfa, gwreiddioldeb a chreadigrwydd y mae defnyddio rhegfeydd yn ormodol. Un o bechodau anfaddeuol llenyddiaeth.

O ran adeiladwaith ni allaf ddeall pwrpas y prolog gan fod y nofel yn gweithio'n iawn hebddo. Nid yw ond yn wastraff inc.

Mae'r epilog yn wahanol. Yn ymhelaethiad o'r prolog mae hwn yn wych. Mae ar wah芒n i'r nofel, yn union fel mae Alun ar wah芒n i fywyd.
Ond pam bod dau epilog?
Camgymeriad argraffu hwyrach?

Mae'r nofel hon yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf Llwyd Owen, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, ac ni allaf ond gobeithio y bydd trydedd, pedwaredd a phumed nofel gan yr athrylith hwn o awdur.

  • Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy