|
Mab y Pregethwr - adolygiad O ddadrithiad i ddadrithiad
Adolygiad Gwilym Owen o Mab y Pregethwr, hunangofiant Cynog Dafis. Y Lolfa. 拢12.95.
Mae hon yn gyfrol unigryw.
Mae'n swmpus - gellid dadlau ei bod yn rhy swmpus ac y byddai golygu cadarnach wedi cyfoethogi'r cyflwyniad - ond nid felly y bu.
Mae hi'n fanwl iawn, iawn, yn enwedig felly yn trafod manylion sydd efallai yn ymddangos yn ddibwys i'r darllenwr cyffredin.
Oedd angen y penodau cychwynnol o gefndir teuluol ym Mrycheiniog a pha bwrpas sydd yna mewn dadansoddi cefndir morwrol Aberaeron a'r cylch?
Ond dyna fo, dyna oedd penderfyniad yr awdur a'i hunangofiant o ydi o, wedi'r cyfan.
Ac mae gan Cynog Dafis ei arddull bersonol iawn o ysgrifennu yn y Gymraeg - arddull yr ydw i yn ei chael yn bur lafurus a thrwm i'w darllen.
O'r herwydd mae dal ati efo'r gyfrol hon yn gallu bod yn dasg hynod feichus - ond gyda pheth ymdrech fe lwyddais i aredig fy ffordd drwyddi.
Adnabod o bell Roeddwn wedi adnabod y gwleidydd o bell ers degawdau ac felly yn eiddgar i ganfod beth yn union oedd troeon yr yrfa - ac i'r graddau hwnnw mae Cynog Dafis wedi cyflwyno darlun manwl a hynod o onest o'i fywyd.
A beth ddysgais i?
Wel, mi wn na fydd o'n hapus gyda'm dadansoddiad o'i hunangofiant. Gan mai'r hyn a ddarllenais i yn Mab y Pregethwr oedd catalog o ddadrithiadau.
Cyfrol drist? O'r herwydd cyfrol drist ydi hon ac yn awgrymu dyn unig ac unigolyddol. Dyn a roddodd y pwyslais ar hyd ei oes ar ddatblygu syniadaeth ond a fethodd bron bob tro a throi'r syniadau hynny yn bethau y gellid eu hymarfer.
Ond yngl欧n 芒'r dadrithio yna.
Cafodd fwy na'i si芒r efallai o brofiadau felly gyda rhai o'i athrawon yng Ngheredigion a Chastell-nedd ond fe ddaeth y dadrithiad mawr cyntaf pan aeth i Goleg Aberystwyth a chael ei siomi'n llwyr gan staff Adran y Gymraeg yn y Coleg Ger y Lli - yn gymaint felly nes troi ei gefn ar wneud gradd yn iaith y nefoedd ac ymuno ag adran y Saesneg.
Ac ni fu fawr o sglein ar ei yrfa golegol wedi hynny yn 么 lei dystiolaeth ei hun.
Yn athro Fe'i cafodd ei hun yn athro ysgol yng Ngheredigion ac er iddo gael cyfnodau digon hapus yn y gwaith - yn enwedig felly yn datblygu dwyieithrwydd yn y Sir - ei siomi a gafodd eto ac er iddo geisio fwy nag unwaith am swydd dirprwy brifathro cafodd ei wrthod bob tro.
Yn y diwedd, ychydig fisoedd cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol fe gododd ei bac a symud allan o ddysgu ac i swydd arall yn Abertawe.
Credodd ar un adeg y gallai wneud bywoliaeth o ffermio a rhoddodd gynnig ar wireddu'r freuddwyd honno ond yn dilyn cyfnod o galedi bu'n rhaid rhoi'r gorau iddi.
Yna, ceisiodd sefydlu mudiad cydweithredol gyda chyfeillion yn ardal Talgarreg - ond byrhoedlog iawn oedd yr ymdrech honno.
Taith grefyddol A chafodd Mab y Pregethwr ddim taith hwylus iawn ychwaith ar y llwybr crefyddol. Fe'i maged, wrth gwrs, yn fab y mans ar aelwyd Bresbyteraidd.
Fel pob g诺r ifanc bu yn y diffeithwch am blwc cyn ymdaflu am gyfnod maith a hynod o weithgar gydag Undodiaid y Smotyn Du.
Ac eto, er iddo ddweud unwaith y byddai ymuno 芒'r Eglwys cyn waethed yn ei olwg a throi at y Blaid Geidwadol y mae erbyn heddiw yn aelod o'r Eglwys yng Nghymru.
Gwleidydd diffuant Olreit, mi clywa i chi'n dweud, mae'n deg s么n am y dadrithiadau yna - ond gwleidydd diffuant ei weledigaeth ydi Cynog Dafis a chafodd o erioed ei ddadrithio yn y maes hwnnw. Wel, dydw i ddim mor sicr.
Dydi'r pleidiau gwleidyddol ddim bob amser yn gweld gwerth mewn gwleidyddion syniadau. Pobl sy'n hoff o fyfyrio a chyfarfod a pharatoi polis茂au a strategaethau.
Gwleidydd felly yw ac oedd Cynog Dafis ac fe fu yna gyfnodau pan oedd o'n cael ei ddadrithio'n llwyr gan ei gyd genedlaetholwyr - a bryd hynny roedd o'n troi cefn ac yn ymdaflu i geisio goleuo mudiad fel Cymdeithas yr Iaith
Ac yn eu tro byddai'r rheiny yn gwrthod ei argymhellion - yna'n 么l at Blaid Cymru a fo.
Peth fel yna ydi dadrithiadau gwleidyddol Cymreig a Cymraeg mae'n debyg.
Buddugoliaeth fawr Ond yn 1992 fe gafodd ei fuddugoliaeth fawr a'i ethol yn Aelod Seneddol ar ran Plaid Cymru a'r Gwyrddion dros Geredigion a Gogledd Penfro.
Buddugoliaeth gwbl annisgwyl ac yn y gyfrol mae Cynog Dafis yn cyhuddo'r 91热爆 yng Nghymru - yn gwbl deg - o fethu ag anfon uned deledu allanol i Aberaeron ar gyfer y canlyniad.
Mae'n awgrymu mai bai Bethan Kilfoil, y gohebydd gwleidyddol, oedd hynny ond anghywir yw dweud hynny - y fi, a neb arall, oedd yn gyfrifol am y camgymeriad. Doeddwn i ddim yn disgwyl canlyniad o'r fath ac, fel cynghorwyr Lerpwl, rwy'n ymddiheuro!
Ond yma eto bu dadrith gyda'r briodas rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn dod i ben a hynny, efallai, yn ei dro yn troi yn drasiedi i'r cenedlaetholwyr yng Ngheredigion.
Dafydd Wigley Y mae yna un dadrithiad arall - y pwysicaf un efallai. Y dadrithiad gafodd Cynog Dafis gyda Dafydd Wigley a oedd yn Llywydd Plaid Cymru ac yn arweinydd y Blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Ac, yn wir, er bod yr awdur yn crynhoi'r cyfan mewn ychydig baragraffau gofalus yn y gyfrol or eiriol hon mae'n gwbl amlwg mai y fo a'i gyfaill, Ieuan Wyn Jones, mewn dau gyfarfod hwyrol yn swyddfa Wigley a yrrodd arweinydd poblogaidd Plaid Cymru i'r anialwch.
Yn wir, mae Cynog Dafis yn dyfynnu'r union eiriau a ddywedodd wrth y Llywydd - ac mae'n datgan ei bod yn edifar ganddo wneud hynny.
Fe garwn i pe byddai wedi ceisio dadansoddi canlyniadau'r geiriau ar statws Plaid Cymru ers y noson hanesyddol arall.
Dau mewn ras Ac mae'r gyfrol yn gorffen gydag un dadrithiad bach hynod o drist - wedi i rywun arall ddweud wrth Ieuan Wyn Jones nad y fo oedd y dyn i lywyddu Plaid Cymru roedd yna ddau yn y ras i'w olynu; Cynog Dafis a Dafydd Iwan.
Fel y gwyddom, Dafydd Iwan aeth a hi ac ar noson y cyhoeddi mewn datganiad fe honnodd Cynog Dafis fod y Blaid wedi dewis llywydd newydd ardderchog - ond dywed yn yr hunangofiant nad oedd wedi dweud hefyd mai ef oedd y gorau hefyd.
Trowch at ddarllen Mab y Pregethwr. Bydd angen amser ac amynedd ond efallai y gwelwch chi stori wahanol . Gobeithio hynny beth bynnag!
Ar Gwales:
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Aled Elwyn Jones
Gwenallt yn siom
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|