91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mab y Pregethwr
Gwenallt - y darlithydd diflas
Tachwedd 1, 2005
Mae un o feirdd mwyaf grymus Cymru yn cael ei ddisgrifio fel darlithydd hynod o ddiflas mewn llyfr sy'n cael ei gyhoeddi yr wythnos hon.

Yn ei hunangofiant, Mab y Pregethwr mae'r cyn aelod seneddol, Cynog Dafis yn disgrifio Gwenallt fel darlithydd "sych" a "dieneiniad" yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae'n ychwanegu iddo gael ei siomi'n ddirfawr gan yn yr adran yn gyffredinol pan aeth yno'n fyfyriwr.

Clawr y llyfr Yr oedd ei siom yn un arbennig yng nghyswllt Gwenallt gan iddo fod yn edrych ymlaen cymaint at astudio wrth ei draed.

Yn ei gyfrol, Mab y Pregethwr, mae'n dwyn i gof ddarllen am y tro cyntaf gyfrol o farddoniaeth y bardd:

"Un prynhawn, ar y ffordd i weld Richard Burton yn rhyw ffilm neu'i gilydd, dyma alw i mewn yn T欧 John Penry [yn Abertawe] a phrynu copi o Ysgubau'r Awen.

"Hwnnw wedyn yn peri i'r gwaed gwrso ynghynt drwy'r gwythiennau. A meddwl y byddai modd eistedd wrth draed y pentewyn Gwenallt yng ngholeg Aberystwyth!"

Dyn bach sychlyd
Ond wedi cyrraedd Aberystwyth cafodd ei siomi'n ddirfawr.
"Fuodd erioed y fath siom 芒'r cwrs Cymraeg, a'r dadrithiad mwyaf oedd Gwenallt ei hunan. Nid pentewyn o bethau'r byd, ond dyn bach sychlyd yn darllen yn ddieneiniad o nodiadau ag arnyn nhw 么l traul blynyddau," meddai.

Gwenallt "Manylion sych, fformiwlaig am Robert ap Gwilym Ddu a'i ddylanwadau. Dim fflach, dim arddeliad, dim engagement 芒'i gynulleidfa, dim treiddgarwch dehongliad, dim sialens.

"Pan ofynnodd e mewn seminar rywbryd beth oedd y gwahaniaeth rhwng gwaith bardd ac athronydd, mi awgrymais fod yr athronydd yn ymwneud 芒'r haniaethol a'r bardd 芒'r diriaethol. "Na," meddai yntau, cyn troi at y myfyriwr nesaf."

Methu datgelu
Does gan Cynog Dafis ddim gair da i bennaeth yr adran ar y pryd ychwaith, Yr Athro Thomas Jones. " Roedd gwrando ar Proff Tom yn trin Branwen Ferch Ll欧r fel chwarel ar gyfer esbonio manion gramadegol a tharddiad geiriau yn ddigon diddorol," meddai cyn cwyno iddo fethu 芒 datgelu i'r myfyrwyr "rhagoriaeth un o glasuron cydnabyddedig yr oesoedd."

Darlithwyr eraill
Mae'n mynd ymlaen i roi darlithwyr eraill yn y dafol hefyd:
"Os oedd gramadeg yn gyfaredd i Arwyn Watkins, fel y byddai fe'n mynnu, buodd raid i ni fodloni ar olrheiniad peiriannol o'r elfen Ladin.

"Ar y llaw arall roedd boneddigeiddrwydd ac ysgolheictod Garfield Hughes wrth drafod rhyddiaith y Dadeni yn help i dorri'r syched am ddysg, a'r Dafydd Bowen ifanc yn llwyddo i gyfleu i ni asbri os nad holl ddyfeisgarwch anchwiliadwy barddoniaeth Dafydd ap Gwilym."

Cwrs Saesneg
Doedd adran y Saesneg - pwnc arall a astudiai - ddim heb ei beiau ychwaith:
"Af i ddim i ddweud bod y cwrs Saesneg yn rhyw great shakes," meddai.

"Roedd yr Athro, Gwyn Jones, fel petai e'n dibynnu mwy ar ei sgiliau rhethregol na miniogrwydd ei feirniadaeth lenyddol; rhyddieithol ar y naw, ar y llaw arall, oedd y cyflwyniad i'r Hen Saesneg a'i llenyddiaeth."

Ond y mae'n mynd ymlaen i ddweud fod "y cyferbyniad o ran dyfnder, disgwyliadau deallusol ac ehangder gweledigaeth" rhwng y ddwy adran "yn boenus o amlwg".

Meddai: "O leiaf roedd darlithiau Nosworthy, Earnshaw, Kinloch a Price yn cynnig sbardun deallusol."

Syrthio mewn cariad
Ond un peth a fu'n help i leddfu iddo ddiflastod y coleg oedd gwylio merched!

"Ces i'n rhoi i letya yn Hafodunos, ym mhen draw'r prom, lle gallwn i wylio'r tonnau'n torri a ffantas茂o am ddirgel gyrff y merched di-rif yn troedio'u ffordd i ddarlithiau o Neuadd Alexandra," meddai.

Ac mae'n s么n sut y bu iddo syrthio mewn cariad 芒 merch o Birmingham:

"Cyn diwedd y flwyddyn gyntaf mi fyddwn wedi cael profi o'r gymysgedd boenus yna o berlesmair a rhwystredigaeth a oedd yn canlyn o reolau ymddygiad rhywiol y cyfnod, ac wedi cwympo mewn cariad dros 'y mhen a 'nghlustiau gyda Saesnes ddeallus, hyderus a swynol o Birmingham, aelod o d卯m rhwyfo'r Coleg.

"Erbyn y Nadolig wedyn roedd hi wedi cael llond bola ar 'yn angst Piwritanaidd-genedlaetholgar i ac wedi dirwyn y berthynas i ben. Mi es innau i bwll diwaelod o anobaith a hunan dosturi, y bues i fisoedd yn codi ohono," meddai.

Dywed na 诺yr e ddim o'i hanes erbyn hyn. "Ond rwy'n dragwyddol ddiolchgar iddi am yr hyn ges i ganddi, ac am iddi roi send i fi. Roedd rhywbeth gwell o lawer ynghadw i fi gan ragluniaeth, ond ddim cyn i fi oroesi mwy nag un o dymhestloedd yr hen Eros," meddai.

  • Cyhoeddir Mab y Pregethwr, hunangofiant Cynog Dafis am 4.30, Tachwedd 4, yn siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth. Am 5:30 bydd Mr Dafis yn darlithio ar "Plaid Cymru a'r Gwyrddiaid: T芒n Siafins neu Wers i'r Dyfodol".

  • Tachwedd 7, bydd yn arwyddo copiau o'r llyfr yn siop y Smotyn Du, Llambed rhwng dau a phedwar.
  • Gwybodaeth ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Gwenallt


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy