Ailgylchu
Mae newyddion yn teithio'n araf ym Mhowys! Dydw i ddim yn cofio union eiriau pennill fy (hen x ?) dad-cu William Williams wrth iddo ofyn i aderyn gario neges i Bantycelyn ond rwy'n amau mai colomennod sy'n cael eu defnyddio i gario'r post yn rhannau o Sir Faesyfed hyd heddiw.
Mae newyddion newydd fy nghyrraedd ynghylch canlyniad isetholiad hollbwysig i Gyngor Tref Llandrindod wythnos ddiwethaf. Dyma fe.
Millington, Ceidwadwr - 155
Green, Plaid Gristnogol Cymru - 142
Grieves (A) - 108
Lathbury (A) - 85
Phillips (A) - 52
Houghton (A) - 33
Plaid Gristnogol Cymru! Beth yffarn? Rwy'n cymryd mai cynrychioli'r Sgweier a'r Llan oedd y Tori a bod Undeb yr Annibynwyr wedi dryllio ei siawns trwy enwebu pedwar (A) i'r pulpud!
Mae'n well i mi beidio dirmygu gwleidyddiaeth Llandrindod. Fe es i i drwbl un tro am wneud hynny fel y mae'r erthygl yma o 2007 yn esbonio. Fe'i ysgrifennwyd ar ôl cyfarfod o Bwyllgor Gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn y dref yn ystod y trafodaethau clymblaid.
Llanast Llandrindod (20/5/2007)
Mae'n anodd i unrhyw un o dan ei hanner cant (sy'n cynnwys fi!) ddeall dyn cweit mor bwysig ym mywyd Cymru'r ganrif ddiwethaf oedd Huw T. Edwards.
Ef oedd prif Undebwr Llafur Cymru, roedd yn berchen ar "Y Faner" ac yn gadeirydd yr egin gynulliad a sefydlwyd gan lywodraeth Attlee "Cyngor Cymru a Mynwy". Roedd e'n cadeirio'r Bwrdd Croeso hefyd, yn aelod o'r Bwrdd Nwy ac yn fawr yn yr Eisteddfod. Does dim syndod felly ei fod yn cael ei adnabod fel "Prif Weinidog answyddogol Cymru" a phan roedd Huw T, yn siarad roedd y genedl yn gwrando!
Rhys Evans awdur cofiant Gwynfor ac un o fy mosys wnaeth fy atgoffa am Huw T drannoeth cyfarfod y Democratiaid Rhyddfrydol. Roeddwn i'n cellwair mai'r cyfarfod hwnnw oedd yr unig beth diddorol i ddigwydd yn Llandrindod erioed ond roedd Rhys yn barod i'm cywiro.
Yn Llandrindod ar ddechrau'r pumdegau y cynhaliwyd y cyfarfod i lansio'r " Ymgyrch Senedd i Gymru" oedd yn tynnu ynghyd Plaid Cymru, carfan gref o Ryddfrydwyr ac un Aelod Seneddol Llafur y bythgofiadwy S.O Davies. Roedd y cyfarfod hwnnw yn siambols pur a chymaint oedd dirmyg Huw T. am y syniad nes iddo sgwennu llyfr "They Went to Llandrindod" yn dilorni'r ymgyrch, ei haelodau a'i nod.
Fe newidiodd Huw T ei feddwl rhai blynyddoedd yn ddiweddarach gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur ac ymuno, am gyfnod, â Phlaid Cymru. Trodd yn ymgyrchwr brwd dros ddatganoli ac er iddo farw yn 1970 roedd yn rhan allweddol o'r broses a arweiniodd at refferendwm aflwyddiannus 1979.
Dw i'n ceisio dychmygu beth fyddai Huw T. yn gwneud pe bai'n ymweld â Bae Caerdydd heddiw. Mae'n sicr y byddai wrth ei fodd i weld adeilad Senedd Cymru. Ond o glywed bod Plaid Cymru a'r Torïaid ar fin ffurfio llywodraeth yno dw i'n meddwl y byddai fe'n cael harten. Wedi'r cyfan y rheswm yr oedd Huw T. yn cefnogi datganoli oedd er mwyn amddiffyn Cymru rhag llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Efallai y byddai fe'n penderfynu mae ei safbwynt gwreiddiol oedd yn gywir a bod "dim byd da yn dod allan o Landrindod"
Fe gyhoedwyd Gwyn Jenkins o Huw T Edwards rhai misoedd ar ôl y post yma... ac fe wnes i ddathlu fy hanner cant hefyd!
SylwadauAnfon sylw
Sori am fod yn blwyfol ond gan mai Fon Roderick yw'r sillafiad cywir o dy enw iawn a dy fod wedi gorfod ei newid i symud ymlaen yn y byd !! Dwi yn siwr y bod ganddot ddiddordeb yn y Fam ynys.
Beth am gystadleuaeth i wahodd unigolion i gynnig enwau addas ynghlyn a pwy ddylai/ yr hoffent ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Mon ?
Dwi yn sylwi fod Bwrdd yr Iaith wedi cynnig barn yr wythnos yma. Tybed a fydd hyn yn dylanwadu ar y penderfyniad ?
Beth am Richard Brunstrom ? byddai ef yn saff o gynhyrfu'r dyfroedd
Roeddwn yn sylwi fod Iwan Huws o'r Ymddiredolaeth Genedlaethol yn amwys ynghlyn a'i ddyfodol wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad ?
Yn bersonol dwi yn meddwl y byddai yn syniad da cael dynes rhywun a phrofiad o gadw trefn ar ddosbarth afreolus.