Ti, chi a fi
Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser - er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes 'na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!
Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae'n cwyno am yr hyn mae'n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.
"Roedd y ti a'r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi'r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat... mae'r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na'i ddieithrio."
Dydw i ddim yn teimlo'n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy'n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy'r rheiny'n iau na fi. Ar y llaw arall mae'n gas gen i gael fy ngalw'n chi gan rywun sy'n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai - neu arwydd fy mod yn heneiddio!
Ta beth mae'r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy'n digwydd yn gyson yng nghoridorau'r 91Èȱ¬ gyda rhai'n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae'r "rhywle" yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!
Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau "gallaswn" a "gwybuant" wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod "Mae Dafydd Jones wedi dweud" yn haws i ddeall na "dywedodd Dafydd Jones". A do, rwyf wedi clywed "mae x wedi dweud" yn cael ei ddefnyddio.
Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno'n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi'n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!
Mae 'na beryglon wrth symleiddio'r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi'n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda'i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna - anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a'r gweddill ohonyn nhw.
Mae'r eirfa fiwrocrataidd hon yma'n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu'n slafaidd i'r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy'n dysgu'r iaith ei defnyddio yn wirion bost.
SylwadauAnfon sylw
Dechrau gweld ffurfiau cryno berfau ('dywedodd') yn dod yn fwy gyffredin gan drydarwyr Cymraeg, oherwydd y cyfyngiad ar nifer y llythrennau
I'r sawl sydd â diddordeb, gallwch weld anerchiad gan Gwen Awbery sy'n cyflwyno'r gwahanol fathau o Gymraeg yma:
Sylwch: nid rant blin (Ã la Vaughan) am hoff ffurfiau a chas ffurfiau sydd ganddi, ond sylwadau gwrthrychol sy'n egluro beth yw beth.
Dwi'n meddwl bod rhaid i'r bobl yma ddeall bod cymdeithas yn gyffredinol yn mynd yn fwy anffurfiol. Faint o bobl sy'n galw Mr X neu Mrs X ar eu penaethiaid yn y gwaith y dyddiau yma? Enwau cyntaf sydd gan bron bawb. Mae'r defnydd o ti yr un fath. Ti oedd pawb i'r Crynwyr gan eu bod yn credu mewn cydraddoldeb cymdeithasol a dwi'n meddwl bod hynny'n beth da.
Diolch am y blogiad yma Vaughan. Diddorol clywed am y trafodaethau yn y 91Èȱ¬. Tybed a yw'r gorfforaeth yn dal i ddefnyddio polisi/canllawiau ffurfiol o ran y defnydd o iaith? Mae cof gen i fod polisi o'r fath wedi ei lunio tua diwedd y 1990au (o leiaf ar gyfer Radio Cymru). A oes defnydd arno o hyd, neu a oes teimlad fod yr oes - a'r iaith - wedi newid ers hynny?
Mae'r canllawiau o hyd yn bodoli - faint o ddefnydd sydd ohonyn nhw sy'n fater arall!
Mae clywed "ti"mewn cyfweliad ffurfiol yn ymosodiad ar y clustiau. Fyswn i byth yn galw Julia Gillard yn "mate" !
Yn fwy difrifol, mae twf iaith y biwrocrat cyfiethiedig yn peri gofid ac yn tynnu'r Gymraeg yn bellach oddi wrth y bobl go iawn.
Yr wyf wedi son am hyn o'r blaen ...