Wylit Waed
Mae gallu anhygoel gan Dafydd Elis Thomas i wylltio rhai o'i gyd-genedlaetholwyr. Yn wir mae'n anodd osgoi'r casgliad ei fod yn mwynhau gwneud hynny ar adegau!
Un peth sy'n tynnu blew o drwyn rhai yw ei hoffter o'r hyn y maen nhw'n gweld fel ffol-di rol brenhinol. I'r rheiny fe fydd geiriau'r llywydd mewn araith yn yr Eisteddfod heddiw yn ychwanegu halen at y briw.
"Gyda chydweithrediad y Coleg Arfau, a chefnogaeth frwd deilad presennol teitl Tywysog Cymru sicrhawyd cydsyniad Ei Mawrhydi i Fesurau'r Cynulliad, a Deddfau'r Cynulliad pan ddaw Rhan 4 o Ddeddf 2006 i rym, gario bathodyn brenhinol newydd. Mae hwnnw'n seiliedig ar arfau Tywysogion Gwynedd neu, yn unol â'r statws a freiniwyd arnynt gan Gytundeb Trefaldwyn 1267, Tywysogion Cymru. Rhoddodd hyn foddhad arbennig i mi, fel deiliad presennol 'Arglwyddiaeth Nant Conwy'"
Sut mae cysoni'r geiriau yna a daliadau sosialaidd a chwyldroadol y Dafydd El ifanc?
Yn ddigon hawdd, fel mae'n digwydd. Mae meddiannu symbolau a grym y wladwriaeth i'w thanseilio a'i thrawsnewid o'r tu fewn yn hen hen syniad. Dyna oedd y garfan Militant yn ceisio gwneud o fewn y blaid Lafur a dyna wnaeth y Bolsieficiaid yn Rwsia yn 1917.
Yn wir yn ei araith mae'r llywydd yn hanner cyfaddef ei fod am ddefnyddio strwythurau'r wladwriaeth Brydeinig i adfer symbolau a sofraniaeth y Cymry.
"Mae i deitlau a symbolau bwysigrwydd arbennig. Gallant gyfleu neges yn fwy cryno ac effeithiol na geiriau. Dyna pam yr oedd hi mor bwysig i sicrhau bod Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cario symbol a oedd yn dynodi eu statws unigryw fel y deddfau cynhenid Cymreig cyntaf ers siartrau Tywysogion Gwynedd. Ni fyddai wedi bod yn briodol i ddeddfwriaeth Gymreig gael ei chyhoeddi o dan yr un arfbais ag sydd ar Ddeddfau Seneddol, sef arfau brenhinol y Deyrnas Unedig."
Mae'r pwynt yn un pwysig. Mae portreadu'r cynulliad fel parhad ac etifedd y wladwriaeth ganol oesol yn gyfystyr a datgan nad byw ar gardod y goron y mae Cymru. Efallai mai Elisabeth II wnaeth ganiatáu ddefnyddio'r arfau ond ar ddiwedd y dydd arfau Llywelyn ac nid ei rhai hi yw nhw.
Yr un oedd rhesymeg David Steel Winnie Ewing* yn 1999 pan ddewisodd agor Senedd newydd yr Alban gyda'r geiriau 'This parliament, adjourned on 25th March 1707, is hereby reconvened' ".
Fe fyddai Lenin a Trotsky yn deall y peth yn iawn!
* Diolch i Dafydd trwy e-bost a Rhobat ar y sylwadau am y cywirio fel dywed Dafydd "... nid David Steel oedd y Leninydd amlwg wnaeth ail-agor Senedd yr Alban ond Winnie Ewing ... dwn i ddim ai mam y ty yw'r term addas, neu Mam Gu y Ty hyd yn oed ... ond efallai fod hi'n llai o syndod mai Madame Ecosse ei hun agorodd y Senedd yn y fath fodd!". "My bad" fel maen nhw'n dweud"!
SylwadauAnfon sylw
Winnie Ewing a agorodd y Senedd gyda'r geiriau, "The Scottish Parliament, adjourned on the 25th day of March in the year 1707, is hereby reconvened", nid David Steel.
Pethau fel hyn (https://www.golwg360.com/ui/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=4697) dwi'n meddwl (yn deillio o hyn dwi'n meddwl sy'n gwneud i Dafydd Êl godi gwrychyn cymaint o'i gyd-genedlaetholwyr - hynny ydi, os ydych chi'n ei ystyried yn genedlaetholwr bellach!
Mae'r Arg yn iawn - mae symbolau'n bwysig.Dwi'n hoff iawn o'r arfbais ... nawr gael gwared ar y gofon ... neu gael teulu brenhinol Gymraeg go iawn!