Ffeithiau
Dyma ddwy ffaith i chi.
1. Mae grŵp swyddogol sy'n rhoi cyngor arbenigol i lywodraeth y cynulliad ar drafnidiaeth wedi arghymell cael gwared ar y polisi o roi pasys bysiau am ddim i bob bensiynwr. Mae hynny'n ffaith.
2. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb trwy ddweud hyn "Rydyn ni wedi nodi'n glir nad ydyn ni'n mynd i gael gwared ar gynllun llwyddiannus a phoblogaidd ... Does dim cynllun i newid y rheolau sy'n pennu pwy yw'r bobl sy'n elwa ar y cynllun". Mae hynny hefyd yn ffaith.
Mae 91Èȱ¬ wedi cyhoeddi ar sail y ffeithiau uchod.
Argwefan y Llywodraeth ceir ymateb swyddogol i'r stori. Mae'r datganiad ond wedi ei gyhoeddi yn Saesneg. Mae'n ymddangos ar y wefan Gymraeg yn yr iaith fain sy'n arwydd o frys, efallai. Ta beth, dyma fe.
Putting the record straight
91Èȱ¬ Wales has been running a story this morning [Wednesday] about plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme. We also informed the 91Èȱ¬ that there were no plans to change the entitlement
Iawn. Gadewch i ni drafod y ffeithiau er mwyn sicrhau bod y record yn gwbwl gywir.
Efallai y gall rhywun o Lywodraeth y Cynulliad esbonio lle yn union y mae'r 91Èȱ¬ wedi honnu bod yna "plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme" ?
Oes 'na unrhyw beth sy'n ffeithiol anghywir neu sy'n rhoi cam-argraff yn stori'r 91Èȱ¬? Hyd y gwela i, nac oes.
Ydy datganiad y Llywodraeth ar y llaw arall yn ffeithiol gywir ynghylch stori'r 91Èȱ¬? Nac ydy, yn fy marn bersonol i.
Diweddariad;
Mae'r datganiad wedi ei newid. Dyma mae'n ei ddweud erbyn hyn.
91Èȱ¬ Wales has been running a story this morning [Wednesday] which may have raised concerns about the future of the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme.
Dydw i ddim yn un i glochdar ond...
SylwadauAnfon sylw
Dw i ddim yn siwr beth i'w wneud o'r polisi, ar un llaw, mae'n un holl wyrdd gan annog defnydd o'r bysiau, a thra roeddwn yn gweithio yn y cymoedd, roeddwn yn siarad a rhai pobl oed pensiwn a oedd yn mynd i rhywle gwahanol pob dydd am dro bach - ac yn siwr o fod yn gwario ar fwyd, siopa ayyb.
Ond mae fy rhieni a pherthnasau yn byw yng nghefn gwlad, a byddai rhaid i ambell un ohonynt gerdded sawl milltir i'r arhosfan bws agosaf, a hyd yn oed wedi cyrraedd arhosfan bws tydy'r gwasaneth ddim yn un cyflawn iawn wedyn.
Mae'n ymddangos nad ydy'r manteision yr un fath i bawb. Sut yn union mae'n cael ei ariannu yng Nghymru?
Mae'n ymddangos bod y sutem ariannu yn Lloegr yn cosbi'r mannau sydd a'r cysylltiadau bysiau gorau (mannau 'hub') ond sydd ddim efallai'n gweld y manteision o gael pobl gwario'n lleol. Roedd erthygl yn y Guardian dydd Sadwrn yn sôn sut roedd Cyngor Tref Preston yn gorfod dod o hyd i arbedion o £1m+ gan bod pobl yn newid bysiau yn y dref i gyrraedd llefydd fel Blackpool.
Ble bynnag mae person yn dechrau pob siwrnai sy'n gorfod talu. Ydy o'n wahanol yng Nghymru?