Oriel yr anffodusion
Nid fi yw'r unig un sy wedi bod yn blogio am ddefnydd y Democratiaid Rhyddfrydol o siartiau ar daflenni etholiad. Yn wir mae 'na dystiolaeth a o adwaith cynyddol yn erbyn y dacteg gamarweiniol hon. Nid y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r unig rai sy'n euog wrth gwrs ond mae'n ymddangos mai nhw yw'r pechaduriaid penna.
Agwedd arall o daflenni'r Democratiaid Rhyddfrydol yw eu hoffter o gynnwys lluniau o'u hymgeiswyr. Yn y pythefnos diwethaf derbyniais chwech o daflenni adref gan y Blaid yn cynnwys dros ugain o luniau o'i hymgeisydd; yr ymgeisydd o flaen ysbyty, yr ymgeisydd o flaen ysgol, yr ymgeisydd o flaen fferyllfa ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Mae'r dacteg yn gweithio. Dwi'n dechrau gweld yr ymgeisydd yn fy nghwsg. Dwi ddim yn siŵr eto ydy hynny'n rhan o freuddwyd neu hunllef.
SylwadauAnfon sylw
Methu gadael sylwad ar y post 'Rhodri'n galw heibio'. Linc i'r sylwadau ddim yn gweithio am ryw reswm.
Diolch. Wedi trwsio.
Mae gan y Rhyddfrydwyr amrywiaeth ar y dacteg yma yng Ngheredigion. Dwi'n gweld yr Aelod Seneddol yn fy nghwsg!
Mae llun Mark Williams yn ymddangos ar dunelli o lenyddiaeth yn hytrach na'r ymgeisydd, am wn i i osgoi cyfyngiadau gwariant etholaethol.
Yn sicr mae rhai etholwyr wedi eu drysu braidd.
Ie, mae Meurig yn iawn. Pam cymaint o luniau o Mark Williams, 16 ar un pamffled a dim un o'r ymgeisydd. Un arall gan MW eto gyda un o'i hymgeiswyr sy'n bedwerydd ar eu rhestr (h.y. dim gobaith) ac yntau yn cyhoeddi ei fod am gynrychioli buddiannau De Cymru. Da iawn fe a phob lwc i drigolion y De ond mae'r gwr yn sefyll yn Rhanbarth Canolbarth a'r Gorllewin Cymru. Ac un cwestiwn arall am luniau'r Lib Dems, pam bod nhw'n gorfod edrych mor benderfynnol o grac? Ai dyma'u ffordd nhw o'n perswadio ni eu bod nhw wir, wir, wir yn weithgar, yn brwydro dros hyn, yn ymgyrchu dros y llall,... rhag ofn nad ydi ni'n coelio nhw.
Pam gymaint o Mark Williams a pheidio crybwyll enw'r ymgeisydd?
Oherwydd ei fod yn galluogi'r Lib Dems i son am Geredigion mewn taflen 'ranbarthol' ac osgoi'r rheolau ar wariant etholaethol. Hwylio'n agos at y gwynt, braidd...