Arhoswch eiliad!
Wrth ail-ddarllen y mae rhywbeth newydd fy nharo. Mae'r maniffesto'n un anarferol gan ei fod yn cynnwys nid yn unig rhaglen lywodraethol y Blaid ond hefyd cyfres o ymosodiadau ar y pleidiau eraill, y Ceidwadwyr yn fwyaf arbennig.
Dyma ddau ohonyn nhw;
"Mae dewis amlwg ar Fai'r 3ydd; ymlaen gyda thim Llafur cryf... neu yn ôl at fethiannau'r Torïaid a thoriadau, diweithdra a dirwasgiad" (tudalen 3)
"O dan Thatcher a Redwood fe wastraffwyd talent ac fe amddifadwyd ein plant o'r cyfle i fyw bywydau llawn" (tudalen 17)
Mae 'na ragor ohonynt a'r un yw'r gân wrth ymgyrchu, neges eglur y byddai na doriadau mewn gwasanaethau pe bai Llafur yn colli. Mae'r gair "buddsoddiad" yn ymddangos ddegau o weithiau yn y maniffesto a'r awgrym clir yw na fyddai'r buddsoddi hynny yn y gwasanaethau cyhoeddus yn digwydd heb lywodraeth Lafur.
Nawr does gan y cynulliad ddim hawl i gynyddu nac i dorri trethi. Hynny yw, mae'n rhaid i unrhyw lywodraeth wario'r arian sy'n dod o'r trysorlys. Efallai y byddai blaenoriaethau llywodraeth glymblaid yn wahanol ond yr un fyddai cyfanswm eu gwariant. Codi bwgan yw awgrymu'n wahanol.
Yr unig ffordd y byddai na doriadau ar draws y bwrdd yw pe bai llywodraeth San Steffan yn ewyllysio hynny ac nid llywodraeth San Steffan sy'n cael ei ethol ar Fai'r 3ydd.
SylwadauAnfon sylw
Gan fod 'Iain Dale' yn meddwl fod Greg Dyke yn mynd i sefyll fel Maer Llundain, oes unrhyw 'goss' fod Hywel Gwynfryn yn mynd i sefyll am y 'cynulliad'..
Dim ond gofyn...
Ydi Ffred Ffransis o ddifi yn awgrymu y dylai cenedlaetholwyr a charedigion yr iaith bleidleisio dros y ceiwadwyr yng Ngorllewin Clwyd er mwyn cosbi'r Blaid Lafur am eu camweddau llywodraethol? Tybed ydi cof Ffred yn pallu a bod degawd o lywodraeth ceidwadol andwyol yng Nghymru wedi mynd i abergofiant!
Helo Eryl! Doeddwn i ddim wedi clywed am sylwadau Ffred. Lle gest di honna?