91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhodri yn galw heibio

Vaughan Roderick | 09:38, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007


Mae Rhodri Morgan newydd gnocio fy nrws! Dyw hynny ddim yn gymaint o syndod a hynny. Rwy'n byw yn ei etholaeth a dyw e ddim yn esgeulus o'i ardal ei hun adeg etholiad.
Mae'r pleidiau i gyd yn hynod o weithgar yn fy ardal i y tro yma ond dyw'n clywed am lefydd eraill lle does dim posteri i'w gweld na'r un daflen wedi ei derbyn. Cwestiwn syml. Ydy hi'n "HOT" neu "NOT" yn eich ardal chi.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:50 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Mr Gasyth:

    Mae Ceredigion yn bla o bosteri melyn a gwyrdd ers rhai wythnosay, a'r pentwr papur sy'n dod drwy'r drws yn tyfu yn ddyddiol. Bron fod yr ymgyrch hon wedi cychwyn yn 2005.

    Yn anhygoel, tydi fy rhieni sydd yn byw yng Ngorllewin Clwyd heb gael dim drwy'r drws. Efallai fod hyn gan eu bod jest y tu allan i Ddinbych ond mewn etholaeth wahanol, ond mae'n beth od y diawl mewn etholaeth mor ymylol ddwedwn i.

  • 2. Am 11:39 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Aled:

    Mae Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin, De Penfro wedi bod yn gweithgar iawn ar gyfer yr etholiad hyn ers bron blwyddyn erbyn hyn. Hefyd mae yna lawer o placardiau y Ceidwadwyr i'w weld ym mherci ambell i fferm. Ond i meddwl bod Christine Gwydder yn amddiffyn y sedd ymylol hon, nid oes unrhyw poster na phlacard i'w weeld. Yr unig taflen dwi wedi derbyn yw un generic ar rhan y r ymgeiswyr rhanbarthol. Mae'r blai Lafur yn dawel IAWN yn yr etholaeth.

  • 3. Am 12:17 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Wedi cyfrif y posteri ym Mangor - 2 i Blaid Cymru, 2 i Lafur ar hyn o bryd

  • 4. Am 12:19 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd gwylan:

    Ie wir, ma 'na lecsiwn mlan yng Ngheredigion. Mae'n ffyrnigo mas 'na. Cae wrth gae, clawdd wrth glawdd, sietyn wrth sietyn. (Trenches yn cal'u hagor wythnos nesa') Poster am boster, pamffled am bamffled a nawr son fod 'na deuluoedd rhanedig. Brwydr fawr dros gymeriad y Sir ac arweinyddiaeth y llwyth, lle mae hynt a helyntion newyddiadurwyr a gwleidyddion Caerdydd yn eil beth. Pwy fan hyn sy'n malio am 'Absenoldeb Alun'- dyw e ddim werth son amdano.

    Mi nele fe les i flogwyr Caerdydd ddod draw 'ma am ddiwrnod neu ddau. Beth amdani, ma'r gorwel ym Mae Ceredigion yn fwy eang na'r un ym Mae Caerdydd.

  • 5. Am 13:48 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Gwylan, Heb os Ceredigion yw Y lle i fod yn yr etholiadau yma. Hi yw'r unig etholaeth lle mae gan y 91Èȱ¬ ohebydd llawn amser (Owain Clarke) a mae'r straeon dwy'n clywed ganddo'n rhyfeddol. Dwy'n gobeithio fynd ar daith trwy'r etholaethau gorllewinol dros y sul.

  • 6. Am 15:54 ar 19 Ebrill 2007, ysgrifennodd Llyr Roberts:

    Ma hi'n dawel iawn yn fy ardal i o'r un etholaeth a ti Vaughan am rhyw reswm. Dwi di cael toreth o bamphledi digon amheus gan y dems rhydd; poster gan rhodri morgan; pamphled bizare iawn gan y ceidwadwyr yn canolbwyntio'n llwyr ar yr iaith Gymraeg, ariannu'r Eisteddfod Genedlaethol ac amddiffyn cestyll cymru (ydi hyn yn engrhaifft o ymgyrchu tu hwnt o sbesiffig ta di pawb di derbyn yr un un?); a fawr ddim eto gan Blaid Cymru. Neb di galw acw ond os daw na ymgeisydd draw ma nhw'n debyg o gael fy mhleidlais gynta fi - dwi methu penderfynnu sut i'w defnyddio hi ar y funud

  • 7. Am 11:20 ar 20 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Wrth deithio drwy Fangor yn y moto bach neithiwr gwelais griw o benboethion PC yn cerdded y strydoedd, gan gynnwys yr ymgeisydd llawen, Alun Ffred Jones. Da gweld yr hen ffordd draddodiadol o gnocio ar ddrysau dal yn bodoli i hel pleisleisiau. Ond hefyd sylwais gyda'm llygaid treiddgar 3 phoster ychwanegol i'r blaid lafur yn y ddinas. Ond wyddoch chi ble roedd yr ymgeisydd Martin Eaglestone wrthi'n gweithio'n galed ddoe? Siopa hefo Glenys Kinnock yn Siop Snowdon Mountain Railway. Wyddwn i ddim fod gen Dren Bach yr Wyddfa fot....

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.