Nia Lloyd Jones - dydd Sadwrn Awst 11
Llongyfarchiadau mawr i Esyllt Tudur ar ennill yr Unawd Cerdd Dant agored. Mae Esyllt eisoes wedi ennill y Llwyd o'r Bryn, a gwobr Lady Herbert Lewis, felly dyma hatrick go iawn.
Dw i ddim isio i chi feddwl fod gen i rhyw obsesiwn hefo JPR Williams, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod hi'n braf ei weld o unwaith eto gefn llwyfan, a'r tro yma doedd o ddim yno yn rhinwedd ei swydd fel stiward. Cystadleuydd oedd o y tro hwn - gan ei fod o yn aelod o Gôr Meibion y Machlud - ac yn canu dan arweiniad un o'r Dyniadon Hirfelyn TesogÌýsef Eric Dafydd.
Y penwythnos diwethaf roedd Mike Williams ar y llwyfan yn arwain côr o ferched o Lundain, a heddiw roedd ganddo gôr meibion sef Eschoir. Ro'n i'n amau mai gwerthu teis oedd Gareth, un o'r aelodau, wrth y drws yng nghefn y llwyfan, ond erbyn gweld aros i weddill yr aelodau gyrraedd oedd o!
Diwrnod y corau meibion ydy dydd Sadwrn, a llongyfarchiadau mawr i Gôr Llangwm ar ennill y gystadleuaeth i Gorau Meibion hyd at 45 mewn nifer. Ond druanÌýag un o'r aelodau - sef Alun. Roedd Alun wedi dod i lawr yn y car a'r garafan yn eu dilyn ond fe wnaeth 'na gar arall ddreifio i mewn i'r garafan, nes ei bod hi'n llanast. O gofio bod Alun yn bwriadu mynd yn syth o'r Eisteddfod ar ei wyliau i Ffrainc doedd ond un peth amdani - prynu pabell! Gobeithio caiff o amser gwych yn honno.
Roedd hi'n andros o boeth gefn llwyfan heddiw ac un oedd yn teimlo'r gwres oedd Rhian James. Mae Rhian yn aelod o Ddawnswyr Caerdydd ac o dan y wisg frethyn roedd ganddi bais a theits hefyd!!
Os oes 'na un perfformiad yn aros yn y cof heddiw - perfformiad Côr Meibion Rhosllanerchrugog o 'Rondes' gan Folke Rabe ydy hwnnw. Darn heb eiriau ydy hwn - lle mae'r côr yn gwneud pob math o synnau gwahanol - gan gynnwys sibrwd eu rhif ffô²Ô a newid lleoliad hefo'r person drws nesa! Wir i chi - welais i erioed unrhyw beth tebyg i hyn o'r blaen ond fe gawson nhw hwyl arbennig o dda ar y llwyfan heddiw - a chipio'r wobr gyntaf am yr ail flwyddyn yn olynnol.
A dyna ni - Eisteddfod arall wedi dod i ben, a finna wedi cyfarfod llu o gystadleuwyr newydd a nifer o hen stejars hefyd. Diolch o galon i bawb am fod mor barod i sgwrsio, ac os byw ac iach, fe fyddwn ni gyd yn ôl yn Ninbych flwyddyn nesa. Dw i'n edrych ymlaen yn barod!!