Iolo ap Dafydd: E-day i 'Steddfod Bro Morgannwg
D-day - wel, E-day i Steddfod Bro Morgannwg, achos i'r cannoedd sydd wedi gweithio, gwirfoddoli a threfnu, a'r miloedd sydd wedi bod yn codi arian yn lleol, mae'n siwr fod yr oriau cyntaf wedi hedfan gydag ochenaid o ryddhad.
Llongyfarchiadau ichi, achos yn yr oriau agoriadol yna dwi wedi gweld sawl cornel o'r maes wrth imi sgwrsio a siarad gyda stwiardiaid, amgylcheddwyr, lobïwyr a phobl ar ambell stondin.
Gyda'r haul allan - er bygthiad y cymylau - mi all y pwyllgor gwaith lleol fod yn falch o'u hymdrechion.
Welis i waith lliwgar plant Ysgol Feithrin Cogan, Penarth, yn olrhain hanes y Steddfod o gyfnod yr hen Iolo Morgannwg ei hun bron, hyd y sioe gyfoes a'r cystadlu yn y pafiliwn pinc sy'n digwydd eleni.
Be sy'n newydd? Eithaf tipyn. Mae'r Maes Gwyrdd yn haeddu ymweliad - a siaradwch gyda Nathan Williams a Donal Whelan. Ma'r naill yn un o'r rhai gafodd y syniad am y Maes gyda phobl eraill fel Jill Bach - sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhagorol ers imi siarad â hi ddiwethaf ger Merthyr Tudful ddwy flynedd yn ôl. Jill hynny ydy nid Nathan, mae'i Gymraeg o yn naturiol ddigon. Mae'n gerddor yn ogystal â bod yn amgylcheddwr.
Mi fu Nathan yn dweud wrtha' i am syniadaeth sefydlu canolfan - o'r enw e-coleg - ar y Maes, fydd yn llwyfan i ddarlithoedd a gigs a phweru'r cyfan oddi ar baneli solar. Da felly, bod yr haul yn tywynnu yn Llandŵ! Ar hyn o bryd.
Mi ddywedodd Nathan hefyd nad pregethu na chenhadu ydy'r bwriad - er fod ei daid yn bregethwr, meddai, a bod rhywbeth Beiblaidd am ei farf ddu a'i sandalau yntau hefyd.
Mi fues i draw i babell Cymdeithas yr Iaith hefyd i siarad gyda Bethan Williams - cadeiryddes bresennol y Gymdeithas. Mae'r dathliad hanner canrif yn bwysig iddyn nhw eleni - bwrw golwg nôl ar ymgyrchoedd y gorffennol. Ac mi wnaeth o'n nharo i na fydd gwrthdystiad nag ymgyrch benodol ar eu "brwydr dros yr iaith" eleni yn ôl Bethan, a finna'n cwestiynu os ydy dyddiau protestio uniongyrchol yn dirwyn i ben, a dyddiau lobïo wedi cyrraedd.
Dwi ar fin mynd am babell y Celf a Chrefft nesaf - mae'n un o fy hoff gyrchfannau ar y maes bob blwyddyn - ac rydw i'n cofio sawl arddangosfa drawiadol - yn enwedig Glyn Ebwy ddwy flynedd yn ôl.
Mi fyddai'n cael gair gyda'r artist Iwan Bala hefyd, ac efallai gawn ni sgwrs am ein dyddiau yn labro yn y Steddfod i gwmni Woodhouse Nottingham, a arferai godi pebyll y maes am flynyddoedd maith.
Dwi'n siwr hefyd y byddwn ni'n hel straeon am fforman y cwmni oedd yn ein cyflogi fel glaslanciau flynyddoedd yn ôl - Barry Sawyer. Dyn garw gyda chalon o aur. Mi fyddai sawl Steddfod wedi baglu onibai am y Sais yma a oedd yn gefnogwr ffanatig o Nottingham Forest. Mi regai fel trwper yn aml, ond roedd ganddo falchder enfawr yn ei waith. Heddwch i'w lwch, a rhan o'm mhrofiad Eisteddfodol i lawn cymaint â'r gwaith cyflwyno 'dwi'n ei wneud eleni.