Iolo ap Dafydd: Prysurdeb ar Sul y Steddfod
Mi ddechreuodd 'y niwrnod i yng nghefn y Pafiliwn - lle anghyfarwydd i hogyn o Lanrwst.
Wel, i'r hogyn dre yma o leiaf. Mi roedd hi fel ffair yna - plantos meithrin Bro Morgannwg fel chwain lliwgar yn cerdded i fewn i Ffau Llewod llwyfan y Pafiliwn. Rhieni yn ffarwelio gyda'u trysorau a merched y Mudiad Meithrin yn arwain un twr ar ôl y llall at yr ystafelloedd newid. Rhai yn gwenu, rhai yn syn a rhai yn beichio crio.
Ynghanol y terfysg a'r twrw yna, mi wnes i drïo clywed Nia Roberts yn cysylltu'n fyw â'n criw ffilmio ni yn fyw o'r stiwdio a rhaglen S4C o'r Eisteddfod.
Wrth lwc, mi roedd Rita Jones a Vanessa Powell o'r Mudiad Meithrin wrth law i sôn am ddyfodol unedau meithrin Cymru a Vanessa yn cyfarwyddo pawb i'w lle eiliadau cyn ateb - gyda phwyll ag amynedd gwerth ei edmygu - fy nghwestiynau i am Sioe "Cadw'n Heini Yn y Fro".
Mae Suliau'r Steddfod wedi prysuro achos erbyn i mi gerdded ar draws y Maes at y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg, roedd heidiau yn gadael yr Oedfa ac yn cerdded linc-di-lonc am goffi neu fymryn o siopa.
Ma'r Brifwyl yn adlewyrchiad mwy cyflawn o wahanol agweddau o fywyd Cymru'r dyddiau hyn.
Braf oedd clywed gwahanol acenion amgylcheddwyr Cymraeg yn y Maes Gwyrdd. A Jill Bach - Jill Davies o Wrecsam sy'n dysgu Cymraeg - yn sôn am y profiad gwahanol y mae hi ac eraill am ei gynnig i Eisteddfodwyr yr wythnos hon. Pobl sydd, be ddywedai, yn fwy traddodiadol?
Cofiwch, efallai bod gan lawer o aelodau corau, y bandiau pres ac ambell i unawdydd cerdd dant datŵs go drawiadol hefyd.
Lle arall gwahanol i'r arfer ydy'r pafiliwn pensaernïaeth. Mae trawstiau pren wedi'u gosod fel coedwig o amgylch y pafiliwn sy'n agos i leoliad Y Lle Celf. Cwt, sied, caban - ok adeilad gyda thô sinc - ydio i adlewyrchu tir a thriwedd Cymru yn ôl y pensaer o'r Bala, Rhys Llwyd Davies.
Ymysg y criwiau dewraf heb os yr wythnos hon ydy cynhyrchydd ac actorion cynhyrchiad 'Ma Bili'n Bwrw Bronco'. Cornel cae gwag ydy lleoliad y perfformiad ar hyn o bryd ond mi fydd 'na set awyr agored a lle i'r gynulleidfa eistedd o amgylch pan fydd y perfformiadau yn dechrau.
Dewr achos pan ges i air gyda Gareth Lloyd Roberts, roedd cymylau enfawr duon yn rowlio fewn o'r môr. Gwell dod ag ymbarel o bosib...
Micro cleimet - hwnna ydio. Achos mae'r haul wedi tywynu yn ddigon aml, er mi fyswn i'n dweud celwydd nad oes mwd, cawodydd glaw trofannol a digonedd o Eisteddfodwyr mewn wellingtons a 'sgidiau dal dŵr lliwgar ymhobman.
Nôl a fi wedyn i gefn y llwyfan. Siarad gyda thri oedd yn cystadlu yn yr unawd dan 12 - tri hyderus, parod i gystadlu - a thad un ohonyn nhw o Ddyffryn Conwy. Mi roedd o yn llawer mwy nerfus na'i blentyn, yn hopian yn anniddig o un goes i'r llall, gyda thensiwn yr aros am y gystadleuaeth yn llenwi 'i lygaid. Y petha' y mae rhai rhieni yn ei wneud i'w plant!