Nia Lloyd Jones - nos Wener Awst 10
Noson y corau oedd hi neithiwr...
Dim ond un Côr Cerdd Dant oedd yn cystadlu - sef Côr Merched y Ddinas. Owain Sion sy'n hyfforddi'r merched ac mae nifer o'i geinciau o wedi cael eu clywed yr wythnos yma.
Un ohonyn nhw - yn gynharach yn yr wythnos oedd 'Fflur' - cainc er cof am Fflur Bedwyr - fu farw'n rhy gynnar o lawer, a braf iawn oedd gweld teulu a ffrindiau Fflur yn y Pafiliwn yn gwrando ar y gystadleuaeth dan sylw sef y parti Cerdd Dant dan 21 oed.
Un peth faswn i byth yn medru ei wneud ydy bod yn aelod o Gôr Llefaru - a hynny oherwydd y byddai gen i ormod o ofn dod i mewn yn y lle anghywir. Ond roedd 'na dri côr llefaru ar y llwyfan a Chôr Sarn Helen enillodd neithiwr. Elin Williams sydd yn eu hyfforddi nhw a nos Iau - fe benderfynodd hi ymuno hefo nhw ar y llwyfan! Dewr iawn!
Mae ambell i aelod o Gôr Eifionnydd wedi bod yn ddigon anlwcus yr wythnos yma - dyna chi Jeremy sydd wedi colli ei ddau ddant blaen ar ôl bwyta hufen iâ hefo fflêc ar y maes, a Meurig wedyn sydd a'i fraich mewn sling. Ond tydy mân broblemau felly yn effeithio dim ar y côr a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar ennill y côr alaw werin, dan arweiniad Pat Jones.
Braf iawn oedd gweld côr newydd o Ynys Mô²Ô ar y llwyfan hefyd - sef Harmoni. Dyma eu ymddangosiad cyntaf nhw a dw i'n sicr y gwelwn ni lawer mwy ohonyn nhw yn eisteddfodau'r dyfodol.
Y corau cymysg oedd yn cloi y cystadlu neithiwr. Un o'r corau ar y llwyfan oedd Cymdeithas Gorawl Llanuwchllyn - yn canu dan arweiniad Mary Lloyd Davies. Dw i'n siwr mod i wedi enwi Mary o leiaf bump gwaith bob diwrnod - gan ei bod hi wedi hyfforddi tua 30 o gystadleuwyr yn ystod yr wythnos. Roedd ganddi naw cystadleuydd yn yr un gystadleuaeth nos Fercher - sef yr Unawd Sioe Gerdd!
Ond Cordydd oedd yn fuddugol unwaith eto eleni - dan arweiniad Sioned James, ac un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod i mi oedd eu perfformiad o Gwawr y Bore - sef trefniant o un o ganeuon Dolly Parton, Light of a Clear Blue Morning.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.