91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Appi dês

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:23, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010

Difyr gweld sut mae'r ffasiwn Steddfodol wedi newid dros y blynyddoedd.

Bydd yr hynaf yn ein plith yn cofio adnodd mor bwysig oedd yr ymbarél ddu i eisteddfodwyr ar un adeg.

Mae lluniau'n dal ar gael o Cynan, Idris Foster, T H Parry-Williams ac eraill yn eu siwtiau rhesog, duon, yn pwyso ar ymbarél wedi ei rhwymo'n dyn.

Toc wedyn, ddiwedd y Pumdegau a dechrau'r Chwedegau, y facingtosh blastig oedd de rigueur yr Eisteddfodwr trendi; y dyddiau hynny cyn i trendi ddod yn air - wel, yn air trendi.

Dilledyn llwyd, lled dryloyw, oedd hwn y gellid ei rowlio'n becyn bach taclus i ffitio'n glyd dan eich cesail yn llygaid haul ond yn agor yn gôt gyflawn o goryn i sawdl pan ddeuai'n gawod.

Ei hunig anfantais oedd ei bod yn beth rhwygiadwy iawn ac yn amlach na pheidio byddai'r sawl a gyrhaeddodd y maes gydag un facingtosh blastig yn y bore yn dychwelyd gartref gyda dwy - wel, dau hanner o'r un un mewn gwirionedd.

Yr arwydd sicraf o Steddfodwr profiadol y dyddiau hynny oedd un gyda'i facing dan ei gesail, pecyn sangwij yn seitan yn ei boced a'i fricsen o Raglen y Dydd yn ei law.

Rhwng hon a map o'r maes yn chwifio yn y gwynt yr oedd cae Steddfod yn faes agored i'r Eisteddfodwr Siriys.

Ers rhai blynyddoedd daeth Rhaglen y Dydd yn gyfrol hardd o luniau ac atgofion hefyd - gwerth i'w chadw'n gofrodd.

Ond pethau ddoe yn perthyn i'r cof San Ffaganidd yw'r rheinia bellach gyda dyfodiad yr iSteddfod - yr 'apps' Cymraeg cyntaf erioed ar gyfer Glynebwy.

Rhaglen y Dydd ar gledr llaw o gymharu a'r fricsen ddalennog a dorrodd sawl llengig dros y blynyddoedd.

Ym Mlaenau gwent, byddwch a'ch llygaid yn agored am Steddfodwr Siriys circa 2010 gyda'i iPhone yn ei law - ac yn sefyll ar Raglen y Dydd er mwyn gweld dros bennau'r bobol o'i flaen.

Na does dim curo ar hen dechnoleg.

A pha werth mewn apps pan ddaw hi'n gawod?
Wel, gall ddangos ichi le i mochel cyn y byddwch wedi dadlapio'r facing blastig heb sôn am ei gwisgo.

Appi dês.

Ond beth tybed fydd ap apps

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.