Bedwyr rhwng dau le
Chefais i ddim cyfle hyd yn hyn i bicio i fyny'r lôn i weld y cerflun o'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones sydd ym Mhrifysgol Bangor - neu Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor fel ag yr oedd pan oedd Bedwyr yn fyfyriwr, yn ddarlithydd ac yn bennaeth Adran y Gymraeg yno.
Ta waeth, dywed un o'i hen gyfeillion, Glyn Morgan, yn sgrifennu yn y rhifyn diweddaraf o'r Llan, newyddiadur yr Eglwys yng Nghymru, nad yw ef yn gweld rhyw debygrwydd mawr rhwng y cerflun â'r dyn.
Ond o fwy o ddiddordeb na hynny, yn yr un pwt mae Mr Morgan yn datgelu hefyd mai Bedwyr oedd i fod yn was priodasiddo ef - ond iddo ei adael i lawr ar y funud olaf un.
A hynny trwy fynd â phriodi ei hun yr un pnawn!
Meddai Glyn Morgan: "Pan yn athro yn Ysgol y Gader, Dolgellau, cyfarfu Bedwyr Eleri a dechrau canlyn.
"Pan na fyddai pethau rhyngddynt yn mynd yn rhy dda i'm llety i y deuai i ddweud ei gwyn a chwilio am gyusur.
"Cytunodd i fod yn was priodas i mi ond torrodd ei addewid a phriodi ei hun yr un diwrnod yn union - ym 1960."
Dydi rhywun ddim yn synnu darllen i Mr Morgan gymryd cryn amser i faddau i'w gyfaill - "Bum yn hir iawn yn maddau iddo", meddai. - ond maddau wnaeth!
Ac mewn gwirionedd onid oedd gan Bedwyr reswm anodd rhagori arno!