91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

. . . dweud dw'i

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:37, Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2010

Archdderwydd, merched prydweddol, miliwnydd blin ac ymgyrchydd ysgolion bach - ail flasu'r wythnos trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr . . .

  • Dy'n ni ddim wedi methu eto. Byddwn ni'n agor - er gwaetha'r holl waith ar y safle mae Meidryn Thomas yn hyderus yn 'Golwg' y bydd maes Eisteddfod Glynebwy yn barod mewn pryd.
  • Pe tase [Dic Jones] wedi cael byw fe fyddai ef fan hyn yn cyhoeddi fod heddiw yn ddiwrnod lluoedd heddwch. Yn ddiwrnod cyhoeddi cariad at gyd-ddyn pwy bynnag y bo ac yn ddiwrnod canmol diwylliant a iaith sy'n ein gwareiddio - T James Jones yn annerch o'r Maen Llog yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.
  • Druid Role for Jones - pennawd - anghyfieithiadwy - stori yn y 'Wales on Sunday'. ynglÅ·n â gorseddu T James Jones yn Archdderwydd newydd.
  • Mae'r newydd am arian annisgwyl y faenol wedi'n drysu yn llwyr - Mervyn Cousins, Eisteddfod Llangollen.
  • Wn i ddim beth i'w ddweud ar wahân i diolch yn fawr iawn. Mae'n syndod mawr a rydw i ar ben fy nigon. Rydw i wedi bod yn adolygu ar gyfer fy lefel A mewn Cyfraith, Addysg Gorfforol a bagloriaeth Gymreig - Emma Grattidge, sydd ar ben rhestr 'The Hot 50' y 'Wales on Sunday'.
  • Trist iawn yw ystyried mai Corfforaeth Lerpwl a ddinistriodd gymuned Gymraeg leol hanner canrif yn ôl, ond yn awr y mae ein pobl ein hunain yn bygwth tanseilio cymuned Gymraeg trwy gau'r ysgol sy'n gonglfaen i fywyd Parc - Ffred Ffransis ar gychwyn taith brotest 70 milltir o lannau Tryweryn i Gaernarfon yn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc ger y Bala.
  • Wrth ymweld ag ysgol yn Nampula (Mosambique) fe'm cyflwynwyd i Reolwr Prosiect Achub y Plant yno. Dychmygwch fy siop pan gyflwynodd ei hun fel Wales Magumbi! Fe fabwysiadodd yr enw yn dilyn dysgu am ein gwlad yn yr ysgol - John Roberts o Laneurgain, Sir y Fflint, gwirfoddolwr gyda mudiad Achub y Plant.
  • Mae'r lluniau wedi ychwanegu yn fawr iawn, iawn, at werth y gyfrol ac rwy'n credu y dyle fod rhyw wobr am ffotograffiaeth. Os fydde yna'r fath wobr, yna mi fydde Marian Delyth yn ei haeddu gant y cant yn fy marn i - John Davies awdur buddugol Llyfr y Flwyddyn 2010.
  • Beth all y byd ei feddwl o Gymru gyda'r fath stomp ar y deunawfed? - Syr Terry Matthews wedi i Gyngor Casnewydd wrthod yr hawl iddo chwalu adfeilion hen ffermdy ar faes golff y Celtic Manor.
  • Wn i ddim beth sydd gan Gwpan Ryder i'w wneud â'r peth. Mae [yr adeilad] wedi bod yma am bedwar can mlynedd ond fydd Cwpan Ryder ddim yma ond am dri diwrnod - y Cynghorydd Ron Jones, Casnewydd.
  • Mae llawer o bobl yn gwneud y camgymeriad sylfaenol o ddyfrio'r ardd i gyd. Ond yn y rhan fwyaf o achosion dim ond wyneb y tir sy'n gwlychu sy' gwneud dim daioni o gwbl gan ei fod yn sychu'n sydyn - hanfodion dyfrio'r ardd yn ôl Guy Barter o'r RHS.
  • Berfa, mwya'r piti a fforch yn gwmpeini 'byca gen i - Alun Elidyr yn rhfyn Gorffennaf o 'WA-w!' yn dewis y celfi fferm mwyaf defnyddiol a ddyfeisiwyd erioed.

  • Mae'n ddiogel i ddweud nad oeddwn i'n gwisgo bici yr adeg honno - Courtenay Hamilton, Mis Wales, yn cofio ei hymweliad a'r Arctig lle'r oedd y tymheredd ddeugain gradd dan rewi.
  • Fe wnâi ei briodi un diwrnod. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano ond ar y funud rydym yn rhy brysur - Eve Myles, seren 'Torchwood' am ei chariad Bradley Freegard.

  • Prifysgolion ac ysbytai yw'r troseddwyr pennaf am alwadau tân ffug - stori newyddion yn y 'Wales on Sunday'.

  • 91Èȱ¬ iD

    Llywio drwy’r 91Èȱ¬

    91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.