Heddwch rhwng y meini
03 Gorffennaf 2010
![Selwyn Iolen yn gosod y goron ar ben yr Archdderwydd newydd](/staticarchive/307babf980405dd0a3e2546f8d58dddef447c747.jpg)
Gorymdeithiodd yn agos i fil o bobl drwy strydoedd Wrecsam ar gyfer seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2011.
Cynhelir yr Eisteddfod yn y dref fis Awst 2011, blwyddyn dathliadau canrif a hanner y Brifwyl ar ei gwedd bresennol.
O fewn cylch yr Orsedd, gyda'r meini platig yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar gyfer y cyhoeddi, yr oedd cymysgedd o lawenydd a thristwch wrth i T James Jones - Jim Parc Nest - gael ei urddo'n Archdderwydd newydd yn dilyn marwolaeth ei gyfaill Dic Jones yn y swydd.
Arweinwyd y gweithgareddau agoriadol gan y Dirprwy Archdderwydd, Selwyn Iolen, sydd hefyd yn wael iawn.
Yn ystod ei araith gyntaf ef o'r maen llog cyfeiriodd T James Jones yn benodol at "ddewrder" Selwyn Iolen.
Yn ysbryd llinell a gyfansoddodd Dic Jones nid llawer cyn ei farwolaeth - "Ni all lladd ennill heddwch" - yr oedd i gondemniad o ryfel ran amlwg yn y gweitgareddau gyda'r Archdderwydd newydd yn gresynu na chafodd gwleidyddion eu dwyn gerbron eu gwell yn sgil rhyfel Irac.
Gan atgoffa'r gynulleidfa fod seremoni'r cyhoeddi yn dilyn Dydd y Luoedd Arfog y Sadwrn cynt dywedodd y byddai Dic Jones, pe byddai'n dal yn fyw, yn cyhoeddi'r Sadwrn 芒'i dilynai yn Wrecsam "yn ddiwrnod lluoedd heddwch".
"Yn ddiwrnod cyhoeddi cariad at gyd-ddyn pwy bynnag y bo ac yn ddiwrnod canmol diwylliant a iaith sy'n ein gwareiddio," meddai.
- I ddarllen mwy am weithgareddau'r cyhoeddi cliciwch
- Ac i ddarllen araith T James Jones fel y'i thraddodwyd cliciwch Yma
Blogiau 91热爆 Cymru
:
![Nia Lloyd Jones](http://www.bbc.co.uk/cymru/blogiau/images/users/nia_lloyd_jones.jpg)
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...