Wythnos Blaenau Gwent
08 Awst 2010
Ein gohebydd Glyn Evans yn pwyso a mesur Eisteddfod Blaenau Gwent.
Dydd Gwener - ac yr oedd yr Arglwydd Elis Thomas wedi ei argyhoeddi medda fo o werth Eisteddfod grwydrol.
Mewn 'sgwrs-sydyn-ar-y-maes', breifat, dywedodd Llywydd y Cynulliad wrthyf:
"Wythnos wych. Yr ydw i wedi fy ennill yn 么l i'r syniad o Eisteddfod grwydrol," meddai.
Er gwaetha'r ffaith bod nifer yr ymwelwyr gryn dipyn yn is nag unrhyw flwyddyn er 2002 y mae gan drefnwyr yr Eisteddfod hawl i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yn llwyddiant.
Ac ar ben hynny maen nhw'n darogan yw y bydd yn talu'i ffordd yn ariannol.
Doedd neb erioed wedi breuddwydio y byddai hi'n hawdd, yn enwedig yn dilyn Y Bala y llynedd a'i 164, 689 o ymwelwyr.
Flwyddyn yn ddiweddarach, 136,933 o ymwelwyr a ddaeth drwy'r giatiau yng Nglynebwy y nifer leiaf er 2002 pan nad ymwelodd ond 126,761 ag Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.
Ond ni ellir diystyru'r ffaith i 20,000 o docynnau am ddim gael eu rhannu ar gyfer y Sul yng Nglynebwy ac wedi i'r trigolion lleol gael eu gwala a'u gweddill o'r rheini i'r gweddill gael eu rhannu led-led Cymru gan brofi y gallwch chi werthu unrhyw beth am ddim!
Ond o leiaf fe agorodd arian y Gweinidog Diwylliant, y drysau i filoedd na fu erioed mewn Eisteddfod o'r blaen.
"A finna'n 30 oed roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n hen bryd imi ddod i weld," meddai mam ddi-Gymraeg i ddau o blant oedd yn amlwg wedi ei phlesio, fel sawl un arall, 芒'r hyn 芒 welodd.
Cefnogaeth Cyngor
Heb os, un o nodweddion amlycaf Prifwyl Glynebwy oedd sut y llwyddwyd i 'werthu'r' syniad o Steddfod i gyngor lleol Blaenau Gwent a gafodd ei argyhoeddi'n llwyr am ba bynnag resymau o werth ymweliad o'r fath 芒'r ardal.
Bu'r gefnogaeth yn gant y cant gydol y cyfnod paratoi ac yn ystod yr wythnos ei hun ac ni fu neb selocach ei bresenoldeb yn ystod yr wythnos na'r Cynghorydd Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent.
O'r seremoni agoriadol lle y traddododd am y tro cyntaf yn ei fywyd anerchiad yn y Gymraeg - wedi ei chop茂o'n ffonetig iddo ar bapur gan ei wyres ugain oed, Kirsty! - bu'n gwbl ffyddlon i'r 糯yl yn hytrach na diflannu, fel mae arweinwyr dinesig weithiau, am weddill yr wythnos.
Mynychodd bob cynhadledd i'r Wasg ac yr oedd dan gymaint o deimlad yn ei gynhadledd olaf na allai ddod o hyd i eiriau.
Fel y gellid disgwyl, un arall, oedd i'w weld ar bob achlysur oedd Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Gyda phwysau bod "Y Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Ieuengaf Erioed" ar ei ysgwyddau llwyddodd ef a'i bwyllgor gwaith - lleiaf erioed siwr o fod - i ddarparu ac i lywio Eisteddfod lwyddiannus mewn ardal anodd.
A thorri tir newydd mewn dilladu cadeiryddol trwy fynychu Cyngor yr Eisteddfod a chrwydro'r maes mewn mewn trwosus cwta a sandalau.
Pob cystadleuaeth
Gallodd yr Eisteddfod ymfalch茂o hefyd mewn llwyddiant ym mhob un o gystadlaethau'r prif seremon茂au ar wah芒n i siom y Fedal Ddrama - ond dydi honno ddim yn cael ei thrin fel cystadleuaeth o bwys beth bynnag gwaetha'r modd.
Iobs haerllug
Wrth gwrs, hyd yn oed ym mharadwys Blaenau Gwent, fuasai Eisteddfod ddim yn Steddfod pe byddai'n gwbl hesb o gecru a chwyno.
A ddechrau'r wythnos y carafanwyr oedd ar dop eu hadlen - a chymryd nad oedd wedi cael ei dwyn - yn cwyno am anaddasrwydd eu maes ac ymosodiadau gan ladron haerllug a fedyddiwyd yn 'yobs' a dim byd arall gan y Cynghorydd Hillman.
Lle i'r Saesneg?
Codwyd bwgan rheol iaith hefyd wrth i'r hanesydd Dr Dai Smith droi i'r Saesneg i gwblhau darlith a draddododd a hynny'n annog rhai i holi a yw'r Rheol Gymraeg yn rhywbeth rhy gaethiwus mewn ardal fel hon gan hudo Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, i ddweud er na fyddai'n caniat谩u i'r Eisteddfod droi'n ddwyieithog ei bod hi efallai yn amser ailystyried y mater hwn unwaith eto.
Mae rhai yn gweld yn barod sylw o'r fath yn gilagor llifddorau distryw ac fe fydd yna wylio mawr beth fydd yn digwydd nesaf.
Yn enwedig o gofio bod y digwyddiad cyntaf yn y Pafiliwn Pinc eleni yn basiant dwyieithog ar y nos Iau - ond nid yn un o weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod - a'r digwyddiad olaf yn gyngerdd Saesneg gyda Will Young - eto nid yn un o weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod fel y prysurwyd i ddweud mewn cyfarfod diweddar o Gyngor yr Eisteddfod.
Ai yn araf deg fel hyn ac wrth gloi ambell i ddarlith yn Saesneg y dwyieithir y Brifywyl?
Ara deg mae catchee hen.
Diau, bod gan Seithenyn wylwyr ar y t诺r y tro hwn.
Hynt y Maes
Yn awr bod yr Eisteddfod drosodd, a'r pebyll wedi eu tynnu i lawr, bydd y gwaith ar adfer safle 185 erw yr hen weithfeydd dur yn parhau.
Cynllun uchelgeisiol gwerth 拢350m a fydd yn cynnwys 700 o dai newydd, ysgol i blant tair i 16 oed, canolfan hamdden a chelfyddydau.
Gerllaw ar y ffordd i mewn i'r Maes gellid gweld yn barod yr Ysbyty Aneurin Bevan (pa enw arall?) newydd bron yn orffenedig - yr ysbyty cyntaf yng Nghymru heb wardiau ond ag ystafell i bob claf.
Law yn llaw a'r adfywiad hwn y gobaith yw i'r Eisteddfod hithau chwarae ei rhan mewn ymwybyddiaeth o Gymreigrwydd yn yr ardal ac y gwelwn dros y blynyddoedd nesaf y bydd y chwistrelliad dwys hwn o Gymreictod yn 2010 wedi atgyfnerthu corffilyn yr iaith mewn ardal arall yn y de ddwyrain.
Yn y cyfamser - diolch i drigolion hynaws Blaenau Gwent am gael mwynhau eu bro - er mai'r unig ran a welodd llawer ohonom oedd Maes blinedig Prifwyl Genedlaethol rhwng llethrau gwyrddion y cwm.
Mwy
Blogiau 91热爆 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...