Pwy sydd heb fod ar goll ar faes eisteddfod? Ar frys i gyrraedd rhywle a heb fod yn gwybod lle'r ydych chi'n iawn heb s么n am lle'r ydych chi i fod o fewn yr ychydig eiliadau nesaf.
A faint yn union o'r gloch mae'r digwyddiad na allwch fforddio ei golli?
Yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 yng Nglynebwy fydd hynny ddim yn broblem i berchenogion iPhone gan fod apps newydd ar gael i'ch tywys o amgylch y maes ac yn rhoi gwybodaeth am wahanol ddigwyddiadau.
Ac ymhlith y cyntaf i fod yn defnyddio'r gwasanaeth newydd y mae Adrian Morgan o Aberystwyth sy'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod ac yr oedd yn hael ei ganmoliaeth i'r iSteddfod fel mae'n cael ei alw.
"Mae'n wych," meddai.
Glynebwy yw'r lle cyntaf i'r Eisteddfod i ddefnyddio'r apps a ddatblygwyd gan Ambrose Choy:
"Roeddwn i'n teimlo erioed nad oedd 'na ffordd hawdd o gael gafael ar yr wybodaeth i gyd mewn un lle pan yn symud o gwmpas a chawsom y syniad o greu iSteddfod ar 么l yr Eisteddfod y llynedd, a dyma ni!" meddai.
"Mae wedi cymryd rhai misoedd a rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod Genedlaethol trwy gydol y broses a gobeithio y bydd pobl yn ei ddefnyddio ac yn teimlo'i fod yn adnodd gwerthfawr," ychwanegodd.
A chyda phob arwydd y bydd yr ap Cymraeg cyntaf erioed hwn yn llwyddiant ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen yn awr at weld nifer o apps Cymraeg eraill yn cael eu creu.
Gw锚l Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, yr ap yn hwb nid yn unig i'r Eisteddfod ond i'r Gymraeg ei hun hefyd.
"Bydd iSteddfod yn adnodd penigamp yn ystod yr Eisteddfod ac wrth i bobl gynllunio'u wythnos," meddai, " ac mae'n dda gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ym myd technoleg. Rwy'n edrych ymlaen i weld iSteddfod yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol."
Ac mae rhai yn holi'n barod a yw dyddiau'r Rhaglen y Dydd drwchus sy'n syrthio'n ddarnau yn eich dwylo erbyn bore Iau wedi eu rhifo!
Mwy
Blogiau 91热爆 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...