Fe ofynon ni i d卯m AR y Maes am y peilot yma.
Beth yw e?
Mae’r ap cyffrous hwn yn ffordd newydd i Eisteddfodwyr gael persbectif newydd ar yr 糯yl. Bwriad yr ap yw cyfoethogi profiad y rhai sydd yn mynd i Fae Caerdydd yn ystod yr 糯yl ymhellach, a gwneud dysgu am yr Eisteddfod hyd yn oed yn fwy hygyrch. Gan ddefnyddio technoleg arbrofol, mae'n cynnig amrywiaeth o brofiadau difyr ac addysgiadol ar gyfer lleoliadau penodol o amgylch y Bae. Mae yna rywbeth ar gyfer pawb, gan gynnwys saith llwybr y gallwch eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim, sef:
Beth ydych chi’n ceisio ei ddysgu?
Mae'r Ap yn cael ei gynnig fel ffordd o brofi sut y gellir cyflwyno cynnwys lleoliad-benodol trwy ddefnyddio technoleg Realiti Estynedig (AR). Cafodd ei greu mewn cydweithrediad rhwng y 91热爆, S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chyfraniadau gan amrywiaeth o bartneriaid (gweler yr wybodaeth yn yr Ap ar gyfer y cydnabyddiaethau). Bydd defnyddio'r Ap yn helpu'r 91热爆 a'i bartneriaid i ddysgu am y modd y gallai'r dechnoleg hon gael ei defnyddio i gynnig mathau newydd o wasanaeth yn y dyfodol.
Er mwyn rhoi'r profiad gorau i chi, mae'r Ap hwn yn defnyddio eich lleoliad a'ch camera i ddarparu cynnwys mapio a realaeth estynedig. Gwnewch yn si诺r eich bod mewn amgylchedd diogel pan fyddwch yn defnyddio realaeth estynedig. Darllenwch ein Gwybodaeth Diogelwch yn
http://policy.pilots.bbcconnectedstudio.co.uk/eisteddfod-ar-cym/terms.html#safety