Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.
Radio Cymru,·251 episodes
Jim Pob Dim gyda stori am Hari yn gweld popeth o'r goeden afalau.
Ar ôl cael brocoli gan ei mam, rhaid i Cadi feddwl am gynllun i gael gwared ohono.
Mae gan bawb gysgod, ond dyw Carwyn ddim yn garedig iawn wrth ei gysgod ei hun.
Mae Dafydd yn chwerthin am ben Cai, felly mae Caradog y Corrach yn dod i chwilio amdano.
Wrth i Harri a Greta gael ffrae fawr, mae rhywbeth hudol a rhyfeddol yn digwydd i'r ddau.
Ar ddiwrnod anffodus gyda phopeth yn mynd o'i le, mae Mali yn teimlo'n anlwcus iawn.
Dydy Albi ddim yn hoffi mynd i'r bath tan iddo gael antur anghyffredin iawn.
Mae argyfwng ym myd y Laladwndwns.
Mae Brenin y Laladwndwns yn gwneud sŵn rhyfedd iawn. Oes rhywun yn medru ei helpu?
Mae gan Albi dri ffrind da o'r enw Ela, Popi a Ned, ond mae e eisiau un arall.
Mae Ben Dant eisiau iddo fe a Capten Cnec fod yn ffrindiau, ond mae ganddo un amod.
Stori i'r plant lleiaf am Moc yn chwarae gêm gyfrifiadur hudolus a chyffrous iawn.
Dyw Gweno ddim eisiau symud tÅ·, ond mae'n newid ei meddwl wrth weld beth sydd yn yr ardd.
Mae'r amser wedi dod i Alun y draenog fynd i gysgu am y gaeaf, ond dyw e ddim wedi blino.
Wrth fynd i siopa gyda mam un diwrnod, mae Albi yn crwydro ac yn mynd ar goll.
Mae Sian y ci direidus yn mynd am dro, ond yn sylweddoli nad yw'n gwybod sut i fynd adref.
Stori am ddau sebra sy'n ffrindiau mawr, ond yn ofnus pan ddaw llew i chwarae.
Mae Edryd a'i ffrindiau yn cymryd rhan mewn triathlon.
Mae Edryd a'i ffrind Wmffra'r eliffant eisiau gweld os ydi dillad ysgol Edryd yn gweithio.
Mae hoff nain pawb yn y pentref yn sâl, felly sut mae gwneud i Nain Cacan deimlo'n well?
Bachgen cyffredin ydi Bili sy'n mwynhau chwarae, ond mae ganddo gyfrinach anhygoel.
Mae Henri wrth ei fodd yn mynd am drip gyda'i famgu, a wastad yn cael diwrnod cyffrous.
Mae mabolgampau'r môr-ladron wedi cyrraedd, ond pwy fydd yn ennill y trysor?
Dydi Gwyn ddim eisiau i Dad symud i dÅ· newydd.
Mae Beca'n benderfynol o wisgo ei welis ar ddiwrnod mawr priodas Anti Elin.
Dyw Menna Malwoden ddim eisiau chwarae cuddio oherwydd ei bod yn gadael llwybr ar ei hôl.
Mae bwyd yn diflannu o'r gegin, ond mae Del yn barod i gesio datrys y dirgelwch.
Mae Bobi'n froga talentog iawn, ond nid yw'n hapus iawn.
Stori i blant bychain am Cadog y pry copyn sy'n byw yn rhif 3, Llwybr Llawen.
Cynog yw'r cogydd gwaethaf erioed, ond heddiw mae'n cael cyfle i fod yn arwr.