'The Drinker' yn Saesneg. Mae hwn yn wyfyn gweddol gyffredin trwy Wledydd Prydain, ac fe'i gwelwch o yn hedfan yn ystod misoedd yr haf. Fel rheol, ei brif gynefin yw gaswelltiroedd bras a chyrs. Daw ei enw o'r hen gred fod y larfa, y lindys, yn yfed dafnau gwlith. Os yw hynny yn wir, yn ol yr arbenigwyr, mae hwn yn greadur unigryw oherwydd na all lindys unrhyw un o'r gwyfynod Prydeinig eraill yfed o gwbwl.
Gwryw sydd yn y llun uchod, ac hawdd gweld hynny oddiwrth ffurf gribog ei deimlyddion - teimlyddion plaen, syml, sydd gan y rhai beinw (ac mae hyn yn wir am bob rhywogaeth o wyfynod Prydeinig). Bydd gwyfynod gwryw yn defnyddio eu teimlyddion i 'arogli' y cemegau deniadol gynhyrchir gan y rhai beinw sydd yn barod i baru. Yn achos yr Yfwr Gwlith, mae yna wahaniaeth mawr rhwng lliwiiau y ddau ryw hefyd; mae y ceiliogod yn dywyllach eu lliw o lawer na'r ieir - sydd, yn aml iawn yn felyn. Ond hawdd adnabod yr Yfwr, gan fod llinnell dywyll, fel yn y llun isod,yn, rhedeg ar draws adennydd y ddau ryw.
Mae y ddau smotyn gwyn yn ymddangos ar adennydd y gwryw a'r fanw hefyd.
Gyda llaw (ac o'r diwedd) mae yna restr safonol o enwau Cymraeg ar wyfynod newydd ymddangos, sef 'Gwyfynod Gloynnod Byw a Gweision Neidr 'yn y gyfres Enwau Ceaduriaid a Phlanhigion (rhif 3) gan Gymdeithas Edward Llwyd. Ffrwyth llafur Duncan Brown, Twm Elias, Bruce Griffiths, Huw John Huws a Dafydd Lewis yw hon, ac mae modd cael copi trwy gysylltu a Tom Jones, Is-gadeirydd y Gymdeithas, ar 01766 530 672 neu trwy ei e-bostio: tomacarfona@btinternet.com
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.