Yn raddol, fe fydd silff lyfrau Galwad Cynnar yn tyfu i gynnwys, nid yn unig, adolygiadau o lyfrau newydd yn ymwneud a chynefinoedd a bywyd gwyllt Cymru, ond llyfrau natur sydd wedi dylanwadu ar aelodau tim Galwad tros y blynyddoedd hefyd. Ac, o ran hynny, pam na wnewch chithau yrru pwt i ni am lyfrau natur sydd wedi gwneud argraff arnoch chithau hefyd ?
The Birds Of Gwent
Adolygiad Daniel Jenkins Jones
Ffeithiau. Arfau mwyaf grymus cadwriaethwyr. Heb dystiolaeth solet am bresenoldeb adar, eu hanghenion, a thwf a chwymp eu niferoedd mi fyddai'n amhosib cynllunio mesurau diogelwch ar eu cyfer. Ac mae atlas The Birds of Gwent yn drysorfa o ffeithiau.
Un o ragoriaethau'r llyfr yw bod Gwent yn un o'r ychydig siroedd ym Mhrydain sydd wedi cyhoeddi dau atlas - hwn, sydd yn crynhoi blynyddoedd 1998 - 2003, a'r un cyntaf sy'n crynhoi blynyddoedd 1981 - 1985. Mae hyn wedi galluogi'r awduron i beintio darlun cynhwysfawr o'r newidiadau sydd wedi bod ym mhoblogaethau adar yr hen sir rhwng y ddau gyhoeddiad. A digon digalon yw'r darlun hwnnw ar y cyfan. Mae'r Turtur wedi diflannu o'r sir fel nythwr ac mae niferoedd sawl aderyn arall wedi lleihau yn arw. Yn eu plith - Golfan y Mynydd, Y Betrisen, Y Gornchwiglen a'r Dylluan Wen. Ar y llaw arall mae nifer o adar yn ffynnu - Y Gwalch Marth, Y Cr毛yr Bach, Telor Cetti a Thelor Dartford er enghraifft.
Mae'r awduron i'w canmol am lwyddo i osod yr holl wybodaeth yma ar ffurf gryno a rhwydd i'w darllen. Ar gyfer pob rhywogaeth mae 'na adroddiad byr am ei hanes yn y sir, mapiau dosbarthiad a thablau sy'n gosod canlyniadau'r ddau atlas ochr wrth ochr. Braf yw gweld defnydd o enwau Cymraeg yr adar yn y llyfr hefyd.
Un adran sy'n sicr o ddenu llygad y ddarllenwr yw honno sy'n cynnwys lluniau o adar y sir. Mae'r ffotgraffiaeth yn fendigedig ac yn glod i dalent y ffotograffwyr lleol. Mae yna adrannau eraill sy'n s么n am gynefinoedd a daeareg Gwent; hanes adara yn y sir a chanlyniadau modrwyo. Mae'r llyfr yn torri tir newydd trwy gynnwys un adran sy'n awgrymu llefydd da i fynd i wylio adar yng Ngwent. Defnyddiol iawn i adarwyr sydd ddim yn gyfarwydd 芒'r sir ac yn profi bod gan Went mwy i'w chynnig na Gwlyptiroedd Casnewydd!
Yn sgil y wybodaeth a gesglir yn ystod arolygon y British Trust for Ornithology ar gyfer 'Atlas Cenedlaethol 2007-2011' mae'n debygol y gwelwn ni nifer o siroedd led led Prydain yn cyhoeddi llyfrau tebyg i hwn ymhen ychydig flynyddoedd. Mae gw欧r Gwent yn sicr wedi gosod y safon.
The Birds of Gwent - 拢40
Cyhoeddwyd gan Helm
ISBN 978-0-7136-7633-4
Pedigree: Words From Nature
Llyfr sydd wedi cael dylanwad mawr ar Duncan Brown.
Gyda'r holl glodfori a fu o gyfres y New Naturalist dros y blynyddoedd diwethaf, sylweddolais fy mod i wedi derbyn un gyfrol o'r gyfres hon yn 么l yn 1976, cyfrol na fu llawer o son amdani gan y rhai sydd uchaf eu cloch yn hyn o beth. Yn wir ni chlywais unrhyw gyfeiriad dros y blynyddoedd at y berlen hon o lyfr, sef PEDIGREE: Words from Nature, ond mi gafodd ddylanwad mawr arnaf, yn wahanol i bawb arall o bosib, ac fe allaf olrhain syniad Prosiect Ll锚n Natur yn 么l iddo (www.llennatur.com). Stephen Potter a Laurens Sargent oedd yr awduron ac fe gafodd ei chyhoeddi yn 1973.
Gallaf gyfleu hynodrwydd y llyfr yn syml trwy esbonio'r teitl; gwraidd y gair pedigree (a pedigri yn y Gymraeg wrth gwrs) yw'r Ffrangeg pied de gru neu troed y garan. Aderyn mawr tebyg i gr毛yr yw garan, weithiau yn wir, cr毛yr glas a olygir wrth y gair - "ac yntau yn chwilio'r nant, fel garan o dro i dro...". Bu farw'r garan go iawn o'r tir ganrifoedd yn 么l. Beth felly sy'n gyffredin rhwng troed cr毛yr a phedigri? Meddylwch am achres deulu neu family tree...meddyliwch am y tebygrwydd rhwng coeden a throed aderyn - a dyna i chi'r ateb. Achres anifail yn bennaf yw pedigri, ac achres geiriau am fyd natur yw cynnwys y llyfr hwn. Mae'n hen bryd i lyfr tebyg ymddangos yn y Gymraeg. Ond yr hyn a'm synnais fwyaf wrth gofio am y gyfrol y bum yn ei chymryd yn ganiataol ers cyhyd yw'r diddordeb dirgel a fu'n llechu yng nghefn fy meddwl ers o leiaf deng mlynedd ar hugain. Tybed, heb y llyfr hwn, a fyddai prosiect Ll锚n Natur wedi dwyn ffrwyth o gwbl. Peidied neb a dibrisio grym y gair ysgrifenedig.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.