Y Fforch arian - Autographa gamma - Silver Y
Dyma un o'r gwyfynod oedd wedi ei ddal yn nhrap gwyfynod Galwad Cynnar erbyn bore Sadwrn, 22 Awst 2009.
Mae hwn yn wyfyn cyffredin iawn o fis Mai tan fis Hydref, ac i'w weld ym mhob math o gynefinoedd o'r arfordir i berfedd gwlad. Mae'r oedolion yn byw ar neithdar.
Fydd hwn ddim yn goroesi'r gaeaf yng ngwledydd Prydain, ddim hyd yma beth bynnag. Daw y genhedlaeth flynyddol gyntaf o oedolion trosodd o'r cyfandir ym Mai ac fe enir un neu ddwy genhedlaeth newydd yma.
Daw ei enwau, yn y dair iaith uchod, o'r marciau gwynion ar ei adennydd.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.