Llun : Gerallt Pennant
Criafolen, Cerddinen
Sorbus aquparia
Rowan, Mountain Ash, Quickbeam, Witchbane, Witchwood, Wicken tree
Tynnodd Gerallt lun y griafolen hon ar lan Afon Llugwy, ger Capel Curig yng Ngwynedd, ganol Awst 2009. Ac, os edrychwch yn fanwl ar y llun, fe welwch nad un goeden yn unig sydd yna.
Y Griafolen Ewropeaidd gyffredin yw hon yn y llun - a dyma'r griafolen sydd wedi bod mor amlwg trwy gefn gwlad Cymru (ac mewn aml i ardd) yn ystod 2009.
Ar waethaf un o'i henwau saesneg, nid aelod o deulu'r Ywen yw hon. Yn hytrach, mae'n perthyn i'r goeden afal a'r ddraenen wen. Mae yna dros hanner can math o griafolen drwy'r byd, ond S. aquparia yw'r un sydd mor drawiadol pan fydd hi yn drwm o aeron ar lethrau a glennydd afonnydd Cymru.
Caiff y griafolen ei defnyddio fel coeden addurniadol mewn gerddi yn aml, ac mae hon yn goeden ddefnyddiol iawn mewn gerddi gwyllt a gerddi bywyd gwyllt. Coeden gweddol fychan neu ganolig ei maint yw hi fel rheol, ac fe all gymeryd ei lle mewn gerddi cymedrol eu maint yn hawdd. Mae aeron y griafolen yn fwyd poblogaidd iawn i nifer o adar gwyllt, yn enwedig y Gynffon sidan (Waxwing) a theulu'r bronfeithiaid, megis y Fwalchen, y Fronfraith, Brych y coed, y Coch dan adain, ayyb. Bydd larfa nifer o wahanol wyfynod yn bwydo ar y Griafolen hefyd - megis Melyn y rhafnwydd (Gonepteryx rhamni - Brimstone), Carpiog y derw (Croallis elinguaria - Scalloped Oak), yr Emrallt cyffredin (Hemithea aestivaria - Common Emerald) a'r Ymerawdwr (Saturnia pavonia - Emperor moth)
Gwneir jeli sur a jam o aeron y griafolen, ac fe'u defnyddir i flasu rhai mathau o gwrw a gwin ond mae yna ganran uchel o asudd sorbig (sorbic acid) ynddyn nhw ac er y collir y rhan fwyaf o hwn wrth goginio (neu hyd yn oed rewi) yr aeron, nid doeth fyddai eu bwyta'n amrwd. Defnyddir y pren i durnio ac i'w naddu, ac i wneud ffyn a handleni cynion ac yn y blaen.
Mae yna beth wmbred o goelion a hen arferion ynghlwm a'r griafolen - mae rhai o'r enwau saesneg arni yn dystiolaeth o hyn, ac o gysylltiad y goeden a gwrachod a dewiniaeth. Un hen arfer yn ymwneud a'r goeden oedd fod morwyr, ar un adeg, yn cario pren criafolen ar fordeithiau er mwyn atal stormydd. Cafodd ei defnyddio hefyd i gadw gwrachod ac ysbrydion draw.
I ddychwelyd at lun Gerallt, uchod. Mae tair coeden yn y llun, gan fod yna griafolen a bedwen yn tyfu ym moncyff yr hen dderwen. Gan fod cynifer o adar yn hoff o aeron y griafolen, bydd yr hadau yn eu baw heb eu treulio ac, o bryd i'w gilydd bydd y baw yn glanio ar fforch mewn derwen ble bydd hen ddail wedi bod yn casglu tros amser; mae hwn yn bridd maethlon iawn i'r hadau. Canlyniad hyn, wedyn, yw coeden ar goeden (neu mewn coeden, fel yn yr achos hwn.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.