Trap Robinson
Dyma'r trap gwyfynod fydd yn cael ei ddefnyddio ar Galwad Cynnar o bryd i'w gilydd. Cafodd ei ddyfeisio gan y Brodyr Robinson ym mhymdegau cynnar y ganrif ddwythafac fe'i ystyrir y math gorau o drap ar gyfer dal y nifer mwyaf, a'r amrywiaeth fwyaf, o wyfynod. Bylb nwy arian byw sydd ynddo ac, er fod y goleuni a ddaw ohonno yn edrych yn weddol gryf i'r lygaid ddynol, mae yn cynhyrchu goleuni uwch-feioled hefyd sydd yn anweladwy i ni ond yn llachar tu hwnt i lygaid gwyfyn.
Mae yna nifer o hen focsus wyau ym mhowlen y trap, lle gall y gwyfynod fydd wedi cael eu hudo i mewn iddo gael lloches ddiogel hyd nes y byddant yn cael eu rhyddhau yn y bore.
Cafodd y trap ei ddefnyddio gyntaf ar Galwad o nos Wener 21 Awst i fore Sadwrn 22 Awst 2009.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.