91热爆

Porth Swtan

22 Gorffennaf 2009

Gwilym Jones ('Gwilym Swtan') a'r tyddyn ble'i gannwyd o.

Ar fore braf ddechrau Gorffennaf, cafodd rhai o griw Galwad Cynnar gyfle i ymweld a Phorth Swtan ar arfordir gogledd-orllewin Mon, nepell o borthladd prysur Caergybi. Ac mae'r gwahaniaeth rhwng prysurdeb Caergybi a thangnefedd Porth Swtan yn drawiadol iawn. Ardal o hen, hen dyddynod bychain yw hon, a phrin fod yr un o'r tyddynod yn y cylch yn tynnu llygaid ymwelydd yn fwy na Swtan ei hun. Dyma'r bwthyn to gwellt olaf ar Ynys Mon, ac mae o wedi ei adfer gyda gofal a pharch mawr gan Gyfeillion Porth Swtan.

Fe gewch hanes y bwthyn, sydd bellach yn amgueddfa fychan, a'i adferiad yn y gyntaf o ddwy raglen recordiwyd yno. A chaffaeliad mawr i ni oedd cael cwmni (a chwmni diddan iawn oedd o hefyd) yr olaf un i'w eni a'i fagu yn yr hen fwthyn, Gwilym Jones, neu 'Gwilym Swtan' i bawb yn y fro. Cawsom olwg ar sut brofiad oedd byw mewn bwthyn to gwellt fel hwn, ac ar fywyd tyddynwyr a physgotwyr yr ardal trigain mlynedd a mwy yn ol. Diddorol iawn oedd cael gwybod sut yr oedd toeau gwellt (neu frwyn) yr ardaL yn cael eu hadeiladu hefyd. A doedd neb yn ein plith ni wedi ei cyfareddu mwy na Twm Elias. Roedd o yn ei elfen, yn astudio'r hen greiriau ac yn craffu i bob twll a chornel ! Yn yr ardd, sydd bellach yn ardd perlysiau, roedd Bethan Wyn Jones, hithau wedi gwirionni. I Keith Jones o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, effeithiolrwydd syml pensaerniaeth y bwthyn oedd yn drawiadol, a'r ffaith fod bythynod o'r fath wedi datblygu tros ganrifoedd lawer i fod yn gartrefi clud i genedlaethau dirifedi o werinwyr tlawd.

Troi eu golygon ar y traeth a'r arfordir wnaeth y criw ar gyfer yr ail raglen. Geraint George oedd yn egluro daeareg hynafol iawn y creigiau i ni - mae rhan o'r clogwyn yno yn dyddio yn ol i gyfnod Cyn-gambraidd. Geraint hefyd ddangosodd i ni nad oedd yr ochrau serth o glai a cherrig man ddim mor anniddorol ag y tybiai rhywyn ar yr olwg gyntaf. Mae Kelvin Jones yn gyfarwydd iawn a'r ardal, ac wedi modrwyo cenedlaethau o gywion Brain goesgoch yno. A thra roedd Bethan yn rhyfeddu at yr amrywiaeth fawr o wymon sydd i'w gael yn y porth bychan, roedd Keith yn gweld tebygrwydd mawr rhwng yr arwyddion o erydu cyson welir ar yr hyd yr arfordir, a'r bwyta parhaus o'r tir gan y mor ar arfordir Pen Llyn.

Darlledir y gyntaf o raglenni Galwad Cynnar o Borth Swtan rhwng hanner awr wedi chwech ac wyth o'r gloch ar fore Sadwrn 25ain o Orffennaf, a'r ail raglen y Sadwrn canlynol, Awst y cyntaf.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.