Fe yrrodd Mary E. Griffiths Pencaenewydd (Pwllheli) weddillion daearol y pryfyn uchod i ni, gan ofyn a'i y Sgimwr, neu Picellwr, Linell Ddu (Orthetrum cancellatum, Black-tailed Skimmer neu Black lined Skimmer) oedd o. O'r lluniau yn Llyfr Natur Iolo, hwn oedd debycaf i'r corff ffeindiodd Mrs Griffiths.
Mae o yn debyg iawn i'r O.cancellatu benywaidd -glas yw y gwrw- ar yr olwg gyntaf, heblaw am rai nodweddion, Tua blaen yr adennydd, mae yna fymrun bach o liw (pterostigma yw'r enw gwyddonol arno) - melyn tywyll yn achos y corffyn ffeindiodd Mrs Griffiths, ond du fyddai y rhain ar y Sgimwr Llinell Ddu.. Mae y gweddillion (a derbyn eu bod wedi tywyllu a chrebachu rywfaint post mortem) yn braffach o lawer yn y Llinell Ddu. Ar ben hynny, dim ond yn Ne Lloegr ac ar odre isaf De Cymru ceir y Picellwr Llinell Ddu fel rheol - er, fe'u ceir weithiau yn Sir Amwythig ac yng ngogledd Ceredigion.
Ar y llaw arall, mae lliwiau adennydd a maint y corffyn yn cyfateb i'r dim 芒 Phicedwr neu Sgimwr arall, sef Orthetrum coerulescens, y Picellwr Cribog (Keeled Skimmer yn Saesneg). Ac mae hwn i'w gael fynychaf yng Nghymru, Cernyw, Gorllewin yr Alban ac ar arfordir Dwyreiniol yr Iwerddon.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.