Gwyfyn y cadno - Macrothylacia rrubi - Fox moth
55mm.Gwryw) 65mm (banw)
Un o'r Gwyfynod 'Eggar'
Mae'r oedolion yn hedfan Mai - Mehefin.
Cyffredin.
Daw enw'r gwyfyn o liw y gwrw, sydd yn goch-frown, gyda dwy linell olau, bron yn wyn, yn croesi ar draws yr adenydd.Mae yr ieir , sydd tipyn mwy, yn lwyd-frown golau gyda'r un patrwm llinellau fwy neu lai ar eu hadenydd. Bydd y rhai gwryw yn hedfan liw dydd a nos, a'r ieir liw nos yn unig. Mae y rhai sydd yn byw yng ngogledd Prydain yn fwy tywyll na'r rhai deheuol.
Mae y lindys yn bwydo ar blanhigion llys, grug, drain mwyar duon ac yn y blaen. Bydd y lindys yn ymochel naill a'i yng ngwreiddia planhigion, megis y grug, neu dan fwsog neu ddail crin,neu yn y pridd dan blanhigion cysgodol fel y grug tros y gaeaf.
Yna, bydd y larfa (lindys) yn ymddangos gyntaf fis Mehefin ac yn bwydo tan tua diwedd Medi, ac yn gaeaf-gysgu wedyn cyn ymddangos eto (ond nid i fwydo) fis Ebrill a ffurfio cocwn ym m么n grug ayyb i droi yn oedolion erbyn Mai.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.