I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Pericoma fuliginosa - owl midge, neu moth midge yn Saesneg.
Am y gwyddom ni, 'does yna ddim enw Cymraeg safonol arno fo - ac efallai bod 'Gwybedyn blewog' cystal a dim, tros dro beth bynnag.
Creadur bychan iawn yw hwn, ddaw at olau ffenestri ar noson gynnes. Mae'r llun uchod wedi ei chwyddo tua phymtheg gwaith - mewn gwirionnedd mae'r prifyn lai na hanner maint un o'r smotiau duon welwch chi yn y llun.
Ond, er mor fychan yw hwn, sylwch pa mor flewog ydi o, prawf o bwysigrwydd blew, i wahanol ddibenion, i bob math o greaduriaid, mawr a bach, ym myd natur.
Blew sy'n cadw'r creadur bychan hwn yn ddiddos - ond, ar begwn arall maint a phwrpas, blew yw corn rhinoseros hefyd!
Ac mae blew yn bwysig i rai planhigion cymaint ac i anifeiliaid - er enghraifft, ydych chi wedi gafael mewn dail poethion erioed?
Blew ar blanhigyn ac anifail, yn fawr ac yn fach, oedd pwnc Twm Elias ar Galwad Cynnar ar 5 Medi, 2009.
A be, fe'ch clywn chi yn gofyn, a wyr Twm Elias am flew ? Wel ...
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.