91热爆

Gialopi wirion

Madfall cyffredin - Lacerta vivipara -Common Lizard

Gialopi wirion, Genau goeg, Madfall, Budrchwilen, Gali pen wirion, beth bynnag alwch chi nhw, dyma oedd testun Bethan Wyn Jones ganol Awst 2009.

Mae y madfall gyffredin i'w wled ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o gynefinoedd, megis gerddi. rhosdiroedd, coedwigoedd, godrau caeau, bon gwrychoedd, hen chwareli, ochrau ffyrdd a rheilffyrdd, ac yn y blaen.

Gall amrywio rhwng 4 a saith modfedd o hyd, ac fe all amrywio tipyn mewn lliw hefyd. Mae bol y gwrw yn lliwgar (yn las, gwyrdd neu oren llachar fel rheol) ac yn frith o smotiau duon, tra bo bol y fanw yn lwyd-frown a phlaen.

Bydd y madfall cyffredin yn gaeaf gysgu o ddiwedd yr Hydref tan fis Mawrth ac fe'u gwelwch nhw'n tor-heulo pob cyfle ddaw am rai wythnosau, i godi tymheredd eu cyrff. Maent yn paru fis Ebrill a mis Mai a chaiff y rhai ieuainc eu geni mewn plisgyn tenau, fel wyau, sydd yn chwalu yn ystod yr enedigaeth fel rheol. Gall y rhai ieuainc forol amdanynt eu hunain ar unwaith, ac ni fydd y fam yn gofalu amdanynt.

Pryfed, malwod, corynod, a phryfed genwair bychan yw bwyd y Madfall cyffredin ac maent hwythau, yn ei tro, yn brae i nadredd, y Cydyll coch, llygod mawr, llwynogod, a chathod. Ond, os llwyddant i osgoi'r gelynion hyn i gyd, gallant fyw pum neu chwe mlynedd. Dau brif amddiffyniad y madfallod yw eu cyflymder a'u gallu fwrw'i cynffonau pan fo raid. Os caiff gelyn afael ar gynffon madfall, mae'n bur debyg y bydd y madfall wedi dianc heb y gynffon. Gall dyfu cynffon newydd wedyn, er y gall hynny gymeryd cymaint ac wyth mis.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.